Ar ôl y gwres llethol, mae disgwyl glaw a stormydd yng Nghymru wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar draws y de.
Maen nhw’n dweud bod disgwyl cawodydd taranllyd a thrwm, gyda hyd at 100mm o law yn cwympo mewn rhai llefydd.
Mae disgwyl mellt a chenllysg hefyd, ac mae rhybudd y gallai rhai llefydd golli eu cyflenwadau trydan.
Daeth y rhybudd melyn cyntaf i rym am 8 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 23) ac fe fydd yn dod i ben am 10 o’r gloch heno – mae’n berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Daw’r ail rybudd i rym am 9 o’r gloch tan ganol nos ar nos Sul, ac mae’n berthnasol i siroedd Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.