Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cyflwyno cais i geisio celu manylion gwaith Anne Sacoolas a’i gŵr.
Mae hi wedi’i hamau o ladd Harry Dunn mewn gwrthdrawiad ger safle’r Awyrlu yn Swydd Northampton yn 2019.
Yn dilyn y digwyddiad, dychwelodd hi a’i gŵr i’r Unol Daleithiau gan geisio osgoi cael ei herlyn mewn perthynas â’r digwyddiad.
Mae’r Unol Daleithiau bellach yn ceisio atal unrhyw fanylion rhag cael eu cyhoeddi amdanyn nhw.
Cafodd y cais ei gyflwyno i’r llys yn Virginia ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 24), ac mae’n cadarnhau bod y ddau yn gweithio i Lywodraeth yr Unol Daleithiau ar adeg y gwrthdrawiad.
Ond mae hefyd yn nodi bod gan “wybodaeth yn ymwneud â Llywodraeth yr Unol Daleithiau fawr ddim perthnasedd i ddyfarniad o unrhyw faterion sy’n weddill yn yr achos hwn”.
Dywed y ddogfen fod yr Unol Daleithiau’n cyflwyno’r cais oherwydd effaith datgelu gwybodaeth am y Llywodraeth yn yr achos hwn “ar ddiogelwch cenedlaethol”.