Mae Yes Cymru yn cynnal gŵyl rithiol Gŵylia / Yestival heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 24), gyda’r pwyslais y tro hwn ar annibyniaeth a’r “economi gref i bobol a’r blaned”.
Bydd yn mynd i’r afael â sut i adeiladu economi gref sydd â’r gallu i ddileu tlodi a herio newid hinsawdd a cholli byd natur – rhywbeth mae’r mudiad yn dweud sydd ar goll o’r economi ar hyn o bryd.
Byddan nhw hefyd yn edrych ar sut gall economi gryfach arwain at fwy o ymdeimlad o gymuned a meddyliau iachach.
“Mae Cymru’n ddigon mawr ac yn ddigon cryf i ddileu tlodi a bod yn arweinydd byd ar herio newid hinsawdd a cholli natur,” meddai’r mudiad wrth hysbysebu’r digwyddiad.
“Ond mae esgeulustod systematig gan lywodraethau olynol yn San Steffan yn ein dal ni’n ôl.”
Maen nhw’n dadlau bod “tlodi’n cael ei orfodi arnom” wrth i San Steffan barhau i fod yn gyfrifol am yr economi, ac fe fydd y trafodaethau’n canolbwyntio ar y canfyddiad sy’n “sylfaenol anghywir” fod Cymru’n wan a’i nerth fel gwlad yn dibynnu ar San Steffan.
Fe fyddan nhw hefyd yn trafod yr opsiynau economaidd sydd ar gael heblaw am fod ynghlwm wrth San Steffan, ond sy’n cael eu hanwybyddu “gan fod gan San Steffan y grym terfynol ac yn dweud ‘Na”.
Y digwyddiad a’r siaradwyr
Dechreuodd y digwyddiad gyda sgwrs banel rhwng yr ymgyrchydd gwrth-dlodi Ellie Harwood, y cymdeithasegydd ac ymgynghorydd economaidd Hilary Wainwright, yr arbenigwr datblygu cymunedol Russell Todd ac Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj, am arian cyfredol.
Ar y panel hinsawdd mae’r ymgyrchydd amgylcheddol ac economaidd Donal Whelan, arweinydd prosiect economi bwyd, Duncan Fisher, a Katie Gallogly-Swan, sydd hefyd yn arbenigo ac yn ymgyrchu ym meysydd yr hinsawdd a’r economi.
Yn trafod arian cyfredol fydd yr ymchwilydd economaidd Ben Arc, yr ymgyrchydd tros addysg economaidd Justin Peter-Lilly, sylfaenydd Banc Cambria Mark Hooper a’i gyd-sylfaenydd Tegid Roberts.
Ar ddiwedd y sesiynau am 6 o’r gloch, fe fydd cyfle i bobol sy’n dilyn y digwyddiad gymdeithasu a gwrando ar set DJ ar Spatial.