Mae un o gynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi amddiffyn eu cais am statws treftadaeth y byd gan UNESCO yn wyneb pryderon y bydd yn denu twristiaid i’r sir yn eu heidiau.

Byddai’r statws yn gosod trefi a phentrefi’r sir ochr yn ochr â rhai o atyniadau mwya’r byd, gan gynnwys y Grand Canyon a’r Great Barrier Reef, a gobaith Cyngor Gwynedd yw y bydd hynny’n hwb ar gyfer adfywiad a chreu swyddi newydd.

Bydd y Cyngor yn clywed ar Orffennaf 28 a fu’r cais yn llwyddiannus yn ardaloedd Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Cwmystradllyn a Chwm Pennant, Ffestiniog a Phorthmadog ac Abergynolwyn a Thywyn.

Pe bai’n llwyddiannus, byddai’n ymuno â rhestr o atyniadau yng Nghymru sy’n cynnwys cestyll Edward I yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech, tirlun diwydiannol Blaenafon yn y de-ddwyrain a Phontcysyllte ger Llangollen.

Ond mae Cylch yr Iaith wedi mynegi pryder y gallai’r statws arwain at “or-dwristiaeth” yng Ngwynedd, ar ôl i’r Cyngor Sir gyhoeddi adroddiadau sy’n nodi pryderon nad yw cymunedau lleol yn elwa o’r sector fel y dylai.

Mae lle i gredu bod twristiaeth yn ychwanegu dros £1bn y flwyddyn at yr economi leol, ac fe wnaeth dros saith miliwn o bobol ymweld â phrif atyniadau’r gogledd yn 2016.

Ond mewn adroddiad ym mis Chwefror, roedd pryderon am “or-ddibynnu” ar swyddi cyflog isel yn y sector twristiaeth o gymharu â diwydiannau eraill a rhannau eraill o wledydd Prydain, ac nad yw’r sir yn gallu ymdopi â’r nifer “anghynaladwy” o dwristiaid fu’n mynd yno haf diwethaf.

Pryderon Cylch yr Iaith

Mewn datganiad, dywed Cylch yr Iaith fod rhaid cydnabod y byddai statws UNESCO yng Ngwynedd yn cynyddu nifer y twristiaid fyddai’n mynd yno, a bod atyniadau i dwristiaid “ar gynnydd”.

Maen nhw’n poeni y byddai denu mwy o dwristiaid yn arwain at ragor o ail gartrefi yn yr ardal a “mewnlifiad o siaradwyr Saesneg”, a bod hynny’n broblem yn y mynyddoedd ac ar yr arfordir.

Er y byddai’r statws yn denu pobol “â diddordeb mewn hanes a hen safleoedd diwydiannol”, mae’r mudiad yn rhybuddio y “dylid cofio bod y fath ymwelwyr yn fwy cefnog ar y cyfan a bod ganddyn nhw’r gallu i fuddsoddi mewn ail gartref”.

“Mae profiadau ardaloedd eraill o fewn y sir yn dangos sut caiff cymeriad a iaith cymuned eu newid o ganlyniad i ddatblygiadau twristaidd anghymarus,” meddai wedyn.

‘Dathlu’r gorffennol’

Wrth ymateb, dywed y Cynghorydd Gareth Thomas, deilydd portffolio datblygiad economaidd Cyngor Gwynedd, mai dathlu hanes cyfoethog yw nod y cais, gan bwysleisio y byddai’r iaith Gymraeg yn ganolog iddo.

“Mae’r enwebiad yn gyfle i ni ddathlu’r hyn mae ein cymunedau wedi’i wneud – yn lleol wrth gynnal y fath iaith a diwylliant cyfoethog a bywiog, ac yn rhyngwladol wrth ddarparu deunyddiau toeon yn fyd-eang a throsglwyddo technoleg a phobol yn rhyngwladol,” meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg a’r diwylliant yn ganolog i ddatblygiad yr enwebiad a byddwn yn parhau i redeg gweithgareddau a phrosiectau i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gyffredin drwy’r dynodiad pe bai’n llwyddiannus.

“Mae hwn yn gyfle rŵan i ni fod yn falch o’n treftadaeth a’n diwylliant wrth i ni adfer, a bydd y dynodiad treftadaeth y byd yn arf hanfodol yn adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall y dynodiad ddenu marchnadoedd ymwelwyr newydd i’r ardal – gan gynnwys ymwelwyr rhyngwladol ac ymwelwyr â diddordeb yn ein hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth.

“Byddai’r ymwelwyr hyn yn dueddol o ymweld drwy gydol y flwyddyn, yn gwario mwy ac yn treulio mwy o amser yn yr ardal – a gall hyn fod o fudd i’r sector economaidd drwy ymweld â busnesau lleol.”

Mae’r cais yn bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Cadw,

Although led by Gwynedd Council, the bid is a partnership between a number of organisations including Snowdonia National Park, the National Trust, Bangor University, the Welsh Government, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Amgueddfa Genedlaethol.