Mae’r Rhwydwaith Ewropeaidd ar Gydraddoldeb Ieithoedd a sefydliadau sy’n perthyn iddo wedi cwyno’n ffurfiol wrth y Cenhedloedd Unedig fod Llywodraeth Ffrainc yn parhau i wahaniaethu yn erbyn ieithoedd brodorol.
Daw hyn yn dilyn dyfarniad y Llys Cyfansoddiadol ar Gyfraith Molac, sy’n sicrhau bod trwytho plant mewn ieithoedd lleiafrifol yn y wlad a defnyddio’r ieithoedd hynny yn yr ysgol yn anghyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon.
Diben Cyfraith Molac, a gafodd ei dderbyn yn helaeth gan wleidyddion, oedd rhoi cydnabyddiaeth i rai ieithoedd brodorol a sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ddod yn rhugl yn yr ysgol.
Wrth gwyno, mae’r Rhwydwaith yn dweud bod y penderfyniad yn mynd yn groes i gytundebau ar hawliau dynol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Chonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol, dau Gonfensiwn sydd wedi’u derbyn gan Ffrainc.
Yn ôl Tangi Louarn, Llywydd Kevre Breizh ac is-lywydd y Rhwydwaith, mae adroddiad Kerlogot-Euzet ar drwytho plant mewn ieithoedd yn “asesiad trist o’r amrywiaeth o ieithoedd sydd mewn perygl yn Ffrainc oherwydd polisi’r wladwriaeth sydd ond yn aros iddyn nhw ddiflannu”.
Mae’n dweud bod yr adroddiad yn “cydnabod safon ac effeithiolrwydd y cymdeithasau wrth ddysgu trwy drwytho” ond, ar yr un pryd, ei fod “wedi’i gloi mewn fframwaith cyfreithiol sy’n gwrthwynebu hawliau siaradwyr ieithoedd rhanbarthol neu frodorol ac felly’n mehu cynnig polisïau credadwy ar gyfer eu dyfodol”.
‘Abswrd’
Yn ôl Davyth Hicks, Ysgrifennydd Cyffredinol rhwydwaith ELEN, mae’r dyfarniad gan y Llys Cyfansoddiadol yn “abswrd”.
“Mae’n gwbl annerbyniol ac yn gwahaniaethu, yn ogystal â bod yn erbyn gwerthoedd Ewropeaidd a degawdau o arfer da mewn addysg ieithoedd yn ei hanfod,” meddai.
Rhybuddia y bydd y Rhwydwaith “yn defnyddio pob llwyfan sydd ar gael i wyrdroi’r penderfyniad hwn yn y sefyliadau rhyngwladol amrywiol”.
Mae’r llythyr wedi’i gefnogi gan fudiadau addysg a iaith yn Llydaw, Alsace, Catalwnia, Corsica, Fflandrys a Gwlad y Basg.