Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad difrifol mewn parc yng Nghaerdydd wedi arestio ail ddyn.

Mae dyn 54 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn y digwyddiad ger y fynedfa i Barc Bute yng Ngerddi Sophia am oddeutu 1 o’r gloch fore Mawrth (Gorffennaf 20).

Cafodd dyn 36 oed o Gaerdydd ei arestio neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 24) ar amheuaeth o geisio llofruddio, treisio a lladrata, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae dyn arall, sy’n 25 oed ac yn dod o Gaerdydd, yn dal yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ddechrau’r wythnos ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae dynes a gafodd ei harestio wedi’i rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.

Dywed yr heddlu fod yr ymosodiad yn un treisgar a barodd amser hir, a’i fod wedi achosi pryder yn y gymuned leol.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ddiolchgar am gymorth y cyhoedd hyd yn hyn, bod yr ymchwiliad yn parhau, a’u bod nhw’n cynnal patrôl ychwanegol yn yr ardal wrth gydweithio ag asiantaethau eraill i sicrhau diogelwch pobol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam neu ffôn symudol a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu’r De.