Mae protestwyr wedi ymgynnull ger cartref Prif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd.

Gorymdeithiodd cannoedd o bobl drwy ganol prifddinas Cymru brynhawn Sadwrn cyn cyrraedd ardal cartref y Prif Weinidog tua 4pm, a gweiddi “arestiwch Mark Drakeford” a “rhyddid!” yn ôl Wales Online.

Roedd yr orymdaith yn un o sawl protest a gynhaliwyd ledled Prydain ac Ewrop ddydd Sadwrn yn erbyn y cyfyngiadau coronafeirws presennol, gyda rhai’n credu’n anghywir fod y pandemig yn dwyll.

Mae llawer ar y cyfryngau cymdeithasol wedi beirniadu’r brotest, a’i galw’n “idiotig”.

Heb grybwyll y brotest, trydarodd Mark Drakeford i ddweud bod y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau wedi’u llacio ond bod y pandemic “yn bell o fod wedi gorffen”.

“Rydym wedi gallu llacio rhan fwyaf o’r cyfyngiadau diolch i waith caled pobl ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Mae’r pandemig yn bell o fod wedi gorffen, ac mae gennym i gyd rhan bwysig i chwarae er mwyn diogelu Cymru.”

Cafodd gefnogaeth gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a drydarodd: “Pryderus o weld torfeydd yn ymgynnull y tu allan i gartref Mark Drakeford y prynhawn yma.

“Os oes gennych anghytundebau gwleidyddol (a chredwch chi fi, mae gen i [a Mark drakeford] lawer) yna cymerwch ran mewn gwleidyddiaeth. Nid yw aflonyddu [ar bobl] fyth yn dderbyniol. Fy meddyliau gyda’r Prif Weinidog a’i deulu.”