Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno masgiau FFP3 yng Nghymru er mwyn ceisio atal ymlediad Covid-19.

Mae lle i gredu eu bod nhw hyd at 100% yn effeithiol wrth atal ymlediad, a fyddai’n hwb sylweddol i weithwyr iechyd a gofal yn enwedig.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, gallai’r mygydau sydd wedi’u dylunio i hidlo aerosolau, fod yn gwbl lwyddiannus yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Dywed yr ymchwil hefyd fod cyfraddau’r feirws ymhlith staff ar wardiau lle mae Covid-19 a wardiau lle nad oes Covid-19 yr un fath pan gaiff mygydau FFP3 eu gwisgo.

Wrth ddefnyddio mygydau llawfeddygol, roedd gweithwyr iechyd ar wardiau lle’r oedd Covid-19 47 gwaith yn fwy tebygl o gael eu heintio.

Ond mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, eisoes wedi gwrthod ystyried cyflwyno’r mygydau FFP3 gan ddweud eu bod nhw’n mynd yn groes i gyngor, a chyfeiriodd hi hefyd at gostau ychwanegol, pa mor anghysurus ydyn nhw ac effeithiau negyddol gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol.

‘Mesur syml’ ond ‘effaith enfawr’

Ond mae hyn yn newyddion gwael, yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, sy’n dweud bod gan y Llywodraeth “gyfrifoldeb” i sicrhau bod cyfraddau heintio ymhlith gweithwyr iechyd mor isel â phosib.

“Mae’r dystiolaeth gref sy’n awgrymu effeithiolrwydd masgiau FFP3 yn creu dadl cryf y dylai gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru fod â’r mygydau hyn,” meddai.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gadw heintiadau ymysg y gweithwyr hanfodol hyn mor isel â phosibl nid yn unig er mwyn y gweithwyr, ond hefyd er mwyn cynnal niferoedd staffio, cynnal gwasanaethau iechyd a gofal, ac atal achosion o Covid-19 yn y lleoliadau hyn ac yn y gymuned ehangach.

“Dylid defnyddio’r holl fesurau sydd ar gael i atal gweithwyr iechyd a gofal rhag cael eu heintio, ac mae cyflwyno masgiau FFP3 yn fesur syml sydd â’r potensial i gael effaith enfawr ar eu cyfraddau heintio.

“Mae defnyddio arbed costau fel rheswm i beidio â rhoi’r amddiffyniad i weithwyr iechyd a gofal y maent hwy eu hunain yn teimlo sydd ei angen arnynt yw taflu’n ôl atynt y cyfan y maent wedi’i wneud yn ystod y pandemig hwn.”