Dylai ioga fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru, yn ôl Llywydd Cymdeithas Fyd-eang yr Hindwiaid.

Yn ôl Rajan Zed, mae diffyg ioga mewn ysgolion yn amddifadu plant o’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil ac mae e’n galw ar Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles a’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan i sicrhau bod ioga yn dod yn rhan o’r cwricwlwm ym mhob ysgol drwy’r wlad.

Dywed fod angen i arweinwyr addysg a gwleidyddion “ddeffro i anghenion disgyblion Cymru”.

Er mai i’r Hindwiaid roedd ioga yn perthyn yn wreiddiol, dywed Rajan Zed y gall fod o fudd i bawb ac at ddefnydd pawb wrth fynd i’r afael ag elfennau corfforol a meddyliol y natur ddynol.

Mae’n gallu helpu pobol i ymlacio, bod yn fwy hyblyg, gwella osgo’r corff, helpu i anadlu’n gywir a dileu straen.

Yn ôl adroddiad yn yr Unol Daleithiau, mae 14.3% o oedolion y wlad honno’n ymarfer ioga, sy’n cyfateb i 35.2m o bobol.