Gallai gwerthu gwneuthurwr meicrosglodyn o Gasnewydd i gwmni yn Tsieina fod yn fwy peryglus i fuddiannau Prydain na rhan Huawei yn y rhwydwaith 5G, yn ôl cyn-ymgynghorydd Prydain ar ddiogelwch seibr.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi gofyn i Syr Stephen Lovegrove, yr Ymgynghorydd ar Ddiogelwch Cenedlaethol, i ymchwilio ar ôl i Nexperia brynu Wafer Fab yng Nghasnewydd am ryw £63m, wrth i aelodau seneddol alw ar weinidogion San Steffan i ymyrryd ar frys.

Yn ôl Ciaran Martin, oedd yn brif weithredwr y Ganolfan Diogelwch Seibr Genedlaethol tan fis Awst ac ar adeg asesu offer Huawei, mae dyfodol cyflenwi meicrosglodion “o’r pwys mwyaf”.

Yn ystod cyfnod Ciaran Martin wrth y llyw y daeth y penderfyniad na fyddai Huawei yn cael bod yn rhan o’r broses o gyflwyno 5G yng ngwledydd Prydain am resymau diogelwch.

Yn ôl Ciaran Martin, sydd wedi bod yn siarad â’r Telegraph, dim ond am fod gan weinyddiaeth yr Arlywydd Donald Trump “obsesiwn” anesboniadwy â 5G y daeth Huawei mor bwysig.

Ac mae’n dweud bod sefyllfa Wafer Fab “yn mynd at galon y ffordd y dylen ni fod yn ymdrin â Tsieina”.

Galw am weithredu

Daw sylwadau Ciaran Martin ar ôl i Bwyllgor Materion Tramor San Steffan ddweud na ddylai “sofraniaeth y Deyrnas Unedig fod ar werth”.

Maen nhw’n galw am weithredu er mwyn sicrhau na chaiff cwmnïau sy’n bwysig yn strategol yng ngwledydd Prydain eu gwerthu dramor.

Yn gynharach y mis yma, roedd adroddiad yn galw am alw gwerthiant Wafer Fab yng Nghasnewydd i mewn am adolygiad swyddogol.

Ar y pryd, dywedodd Tom Tugendhat, cadeirydd y pwyllgor, fod gan Tsieina “record o ddefnyddio buddsoddiadau tramor i gael mynediad i dechnolegau a gwybodaeth bwysig”.

“Rydyn ni wedi gweld gormod o gwmnïau technoleg gwych ein gwlad yn diflannu dramor gyda goblygiadau economaidd a pholisi tramor arwyddocaol posib,” meddai wedyn.