Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad ym Mharc Bute yng Nghaerdydd sydd wedi gadael dyn 52 oed mewn cyflwr difrifol wedi cyhuddo dau ddyn o geisio’i lofruddio.

Mae Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36, wedi’u cadw yn y ddalfa a byddan nhw’n mynd gerbron ynadon yn y brifddinas yfory (dydd Llun, Gorffennaf 26).

Digwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau man fore Mawrth (Gorffennaf 20), a chafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae’r heddlu’n awyddus i gael gwybodaeth am ddynes arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Stuart Wales, mae Heddlu’r De yn awyddus i “sicrhau’r cyhoedd fod sawl ymholiad ar y gweill” ac y byddan nhw’n “ddiflino wrth adnabod a dwyn unrhyw un â rhan yn yr ymosodiad treisgar hwn i gyfiawnder”.

Ond mae’n pwysleisio eu bod nhw’n “gwneud cynnydd arwyddocaol” o ran yr ymchwiliad, ac yn diolch i’r cyhoedd am eu cymorth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu.