Mae golwg360 yn deall bod Bryn Canaid, cartref Anne Griffith yn Uwchmynydd ger Aberdaron, wedi cael ei werthu – y bwthyn a gyfrannodd at danio’r protestiadau tros yr argyfwng tai haf.

Roedd yr eiddo ar werth am oddeutu £500,000 ac roedd disgwyl iddo gael ei werthu mewn ocsiwn yn Lerpwl y mis yma.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy sydd wedi ei brynu nac am faint ond, yn ôl yr arwerthwyr tai Beresford Adams, bydd y wybodaeth honno ar gael trwy law’r Gofrestrfa Dir maes o law.

Fe ddywedodd llefarydd nad oedden nhw am wneud sylw, rhag ofn denu cyhoeddusrwydd negyddol.

Fe fu pryderon yn yr ardal leol na fyddai pobol leol yn gallu fforddio ei brynu, ac y byddai hynny’n arwain at ei droi’n ail gartref.

“Rŵan, efo’r holl achosion o dai yn gwerthu at bwrpas ail gartrefi, mae’n rhaid cydnabod hyn fel rhywbeth sydd ddim jyst yn berthnasol i bobol Cymraeg a chenedlaetholwyr,” meddai Dr Eilir Hughes, meddyg lleol wrth golwg ar ôl gweld hysbyseb am yr arwerthiant.

“Mae hwn yn fater i ni i gyd sy’n byw yn yr ardal, beth bynnag yw eich cefndir gwleidyddol. Achos, mae o’n cael effaith ar ein hiechyd ni ac ar ein llesiant ni – mae o’n cael effaith ar ein cymuned ni, mae o’n gwneud y gymuned yn sâl os ydach chi’n methu cael pobol i fyw ynddi.”

Cartref Anne Griffith

Cartref yr ymarferwr meddygol Anne Griffith oedd Bryn Canaid yn Uwchmynydd ger Aberdaron, lle cafodd ei geni yn 1734.

Fe fu William Jones, neu Gwilym Daron, yn gyfrifol am gofnodi ei hanes ond prin yw’r wybodaeth sydd ar gael am ei rhieni na’i phlentyndod ac eithrio’r ffaith iddi gael ychydig iawn o addysg ffurfiol.

Bydwraig oedd hi o ran ei galwedigaeth, a hi ddaeth â’r ieithydd rhyfeddol, Dic Aberdaron, i’r byd.

Roedd hi’n cael ei hadnabod am ei defnydd o ddail ffion at ddibenion meddygol, yn enwedig afiechyd y galon, ymhell cyn i’r arfer gael ei gydnabod yn ehangach.

Roedd ganddi bob math o blanhigion y tu allan i’w chartref ar gyfer ystod eang o afiechydon ac anhwylderau, a bu’n byw yn Bryn Canaid tan ei marwolaeth yn 1821.

Canaid

Bryn Canaid: ddylai’r arwerthiant ddim digwydd

Dylan Iorwerth

Os ydi Llywodraeth Cymru o ddifri am ddechrau gweithredu i atal chwalfa’r Gymru wledig oherwydd ail gartrefi, dyma le iddyn nhw ddechrau

“Salwch Tai Gwledig Cymru”

Sian Williams

“Mae hwn yn fater i ni i gyd sy’n byw yn yr ardal, beth bynnag yw eich cefndir gwleidyddol”