Mae trydariad meddyg teulu amlwg ym Mhen Llŷn sy’n cyfeirio at yr argyfwng cartrefi fforddiadwy fel “salwch tai gwledig” wedi tanio trafodaeth ar ei gyfrif trydar.
Ddechrau’r wythnos roedd chwarter miliwn wedi gweld trydariad Doctor Eilir Hughes, sy’n feddyg teulu yn Nefyn ac yn enedigol o’r ardal.
Wrth bori drwy’r we dros y penwythnos fe sylwodd y meddyg fod bwthyn bach gwyngalchog ger llwybr yr arfordir yn Uwchmynydd, ger Aberdaron, ar werth am bris sydd allan o gyrraedd pobol ifanc leol.
Yn ôl gwefan arwerthwyr tai Beresford Adams yn Abersoch fe fydd y bwthyn yn mynd ar werth mewn ocsiwn yn Lerpwl fis Gorffennaf gyda phris cychwynnol o £500,000.
“Dw i’n gyfarwydd â’r tŷ bach di-nod yma yn Uwchmynydd achos dw i’n cofio dod ar ei draws flynyddoedd yn ôl wrth gerdded llwybrau’r ardal,” eglura Eilir Hughes.
“A dw i’n cofio yn 2015 mi’r oedd o ar werth yr adeg honno am bris arswydus o £335,000.”
A phan welodd fod y pris wedi codi i’r fath raddau roedd yn disgwyl gweld “rhyw fath o estyniad gwerth chweil i gyfiawnhau’r codiad pris…
“Ond dim y fath beth! Roedd y pris jyst oherwydd bod y farchnad yn gweld fod y gwerth wedi codi cymaint â hynny i ofyn y ffasiwn grocbris. Felly roedd rhaid codi sylw am y peth yn doedd?
“Rŵan, efo’r holl achosion o dai yn gwerthu at bwrpas ail gartrefi, mae’n rhaid cydnabod hyn fel rhywbeth sydd ddim jyst yn berthnasol i bobol Cymraeg a chenedlaetholwyr. Mae hwn yn fater i ni i gyd sy’n byw yn yr ardal, beth bynnag yw eich cefndir gwleidyddol. Achos, mae o’n cael effaith ar ein hiechyd ni ac ar ein llesiant ni – mae o’n cael effaith ar ein cymuned ni, mae o’n gwneud y gymuned yn sâl os ydach chi’n methu cael pobol i fyw ynddi.”
Hanes Bryn Canaid
Mae gwybodaeth mae un ferch leol wedi ei hychwanegu at drydariad Eilir Hughes am y bwthyn yn halen yn y briw, eglura’r meddyg teulu wrth Golwg ddechrau’r wythnos.
“Mae yna ferch o Uwchmynydd wedi rhoi ychydig bach o wybodaeth am y tŷ yma. Be’ mae hi’n ddweud ydi bod cymaint o hanes i’r tŷ ac yma y ganwyd Ann Griffiths, Meddyges Bryn Canaid – dyna enw’r tŷ – a’r dyddiad ydi 1734 i 1821. Mae hi’n dweud wedyn: ‘Roedd hi’n defnyddio’r hyn oedd ganddi yn ei chynefin at bwrpas meddygol’. Dyna i chi dro crwn yn y stori ynte!”
Roedd clywed hyn ac yntau’n feddyg ei hun yn gwneud i Eilir Hughes “deimlo’n fwy briwedig” meddai, “a dw i’n teimlo fy mod i’n perthyn mwy i’r lle rŵan, rhywsut.”
Mae o’n annog darllenwyr Golwg i edrych ar yr ymatebion i’w drydariad.
“Mae 99% ohonyn nhw yn angerddol ac mae angen i’r gwleidyddion yma [weithredu]. Mae yna gyfrifoldeb ar bob un wan jac ohonyn nhw achos mae yna un o bob un o’r tair prif blaid wedi ei ethol i gynrychioli pobol sydd ar hyd arfordir gorllewinol Cymru lle mae hyn yn broblem o ddifrif – edrychwch ar Sir Benfro!”