Mae’r artist Iwan Gwyn Parry, sy’n adnabyddus am ei dirluniau olew dramatig, wedi ymuno â rhengoedd Oriel Ffin-y-Parc ger Llanrwst, ar ôl blynyddoedd yn cael ei gynrychioli gan Oriel Martin Tinney, Caerdydd.

Ei arddangosfa yn yr oriel grand yn Llanrwst – wrth ochr gwaith yr artistiaid William Selwyn a Carl Melegari – yw ei sioe fawr gyntaf yn y Gogledd neu’r De ers 2013.