Nid yn aml y dyddiau hyn y byddwn ni’n agor CD newydd sbon. Yn llai aml fyth fydd y CD honno yn edrych ac yn teimlo fel record feinyl. Ond dyna’r profiad synwyryddol ges i’n ddiweddar cyn hyd yn oed wrando ar y gerddoriaeth ar O Feirion… i Dreforys, albwm newydd Huw Dylan Owen a fu yn aelod o’r bandiau Gwerinos, Mari Lwyd ac Yr Alltud. Cafodd Dylan ei fagu yn Nolgellau, ond mae wedi hen ymgartrefu yn Nhreforys ar ochr ddwyreiniol Abertawe. Trwy gyfrwng ei gasglia