Mae Trystan Bevan yn dweud y bydd e’n treulio’r wythnosau a’r misoedd nesaf yn dod i adnabod chwaraewyr Gleision Caerdydd, cyn dechrau ar ei swydd newydd yn Gydlynydd Perfformiad Uchel y tymor nesaf.

Bu’n siarad â Golwg wrth baratoi i ddychwelyd at y rhanbarth lle treuliodd unarddeg a hanner o flynyddoedd yn Bennaeth Perfformiad rhwng 2003 a 2014. Cafodd ei benodi wedyn yn Gydlynydd Perfformiad clwb rygbi’r Wasps yn Uwchgynghrair Lloegr.