Ac mae’r Aelod Plaid Cymru yn dweud mai gwaith caib a rhaw ar lawr gwlad yr etholaeth – sy’n gartref i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru – yw un o’r rhesymau dros ei llwyddiant ysgubol.

Ddechrau’r wythnos fe ddywedodd wrth Golwg ei bod “ar ben fy nigon” yn y cyfrif ddydd Gwener diwethaf pan welodd y 13,760 o bapurau pleidleisio yn dechrau “pentyrru” o dan ei henw.