Huw Prys Jones sy’n tafoli…

Tybed sut fydd y Senedd nesaf yn cymharu o ran nifer yr aelodau sy’n siarad Cymraeg?Mae Cymry rhugl eu Cymraeg fel Jane Dodds a Sam Kurtz wedi eu hethol, ond mae Carwyn Jones a Suzy Davies yn gadael.

Efallai mai ym Mhlaid Cymru y mae’r newid mwyaf, oherwydd mae pob un aelod yn medru’r Gymraeg.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddefnyddio mwy ar y Gymraeg ar lawr y Senedd yn y tymor nesaf – gan aelodau o bob plaid.

Yn y gorffennol, mae rhywfaint o nerfusrwydd wedi bod o fewn rhengoedd Plaid Cymru ynghylch bod â delwedd rhy Gymraeg.

Mae hyn wedi mynd law yn llaw â phryder am y canfyddiad ei bod yn blaid ar gyfer ardaloedd Cymraeg yn bennaf.

Mae’r etholiad, wrth gwrs, wedi dangos yn gliriach nag erioed mai’r Gymru Gymraeg ydi cadarnle Plaid Cymru.

Gellir dadlau hefyd fod cael grŵp o seneddwyr mor drwyadl Gymraeg eu hiaith yn tueddu i gadarnhau’r ddelwedd hon.

Mae’n wir, wrth gwrs, mai cymharol gyfyng ac anwadal ydi apêl Plaid Cymru wedi bod ymhlith y di-Gymraeg yng Nghymru, er bod Cymry di-Gymraeg ymhlith ei haelodau mwyaf pybyr.

Llawer rhy simplistig, fodd bynnag, yn fy marn i ydi priodoli’r diffyg llwyddiant yma i ddelwedd rhy Gymraeg.Yn sicr, all Plaid Cymru ddim beio colli’r Rhondda i unrhyw beth sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

All neb gael rhywun sy’n perthyn yn fwy i’r Rhondda na Leanne Wood; mae hi hefyd o gefndir cwbl ddi-Gymraeg ac nid yw’n rhugl yn yr iaith.

Ar ben hyn roedd yn ffigur amlwg sydd wedi cael sylw helaeth yn y cyfryngau Prydeinig yn ogystal â Chymreig.

Cyn gallu ehangu ei hapêl, rhaid i Blaid Cymru edrych yn llawer dyfnach ar y gwahaniaethau diwylliannol rhwng gwahanol rannau o Gymru a’i gilydd.

Nid dilorni ymwybyddiaeth pobl ddi-Gymraeg mewn unrhyw ffordd ydi cydnabod nad ydi’r math o genedlaetholdeb mae Plaid Cymru’n sefyll drosto erioed wedi bod â llawer o apêl yn eu plith.