Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi ymddiheuro ar ôl dweud na ddylai pobol “gwato” rhag Covid-19.

Cafodd ei feirniadu gan deuluoedd rhai fu farw yn sgil y feirws am fod yn “hynod ansensitif”.

Dywedodd ei fod e wedi “gwella’n llawn” o’r feirws ar ôl cael “symptomau ysgafn iawn, diolch i frechlynnau anhygoel”.

Dywedodd ar Twitter fod angen i gymdeithas “ddysgu byw â’r feirws yn hytrach na chwato rhagddo”.

Ond cafodd ei feirniadu am fod yn “hynod ansensitif ar sawl lefel”.

‘Geiriau diofal’

Mae David Lammy, llefarydd cyfiawnder Llafur yn San Steffan, wedi cwestiynu’r defnydd o’r gair “cwato”, gan adleisio sylwadau Angela Rayner, dirprwy lefarydd y blaid.

“Mae 129,000 o Brydeinwyr wedi marw o Covid o dan gwyliadwraeth eich Llywodraeth chi,” meddai.

“Peidiwch â phardduo pobol am geisio cadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel.”

Yn ôl Munira Wilson, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd ei sylwadau’n “warthus” ac yn “ddiofal”, ac mae’n ei gyhuddo o “sarhau pob dyn, dynes a phlentyn sydd wedi dilyn y rheolau ac wedi aros gartref i amddiffyn eraill”.

Dywed Devi Sridhar, sy’n arbenigo yn iechyd y cyhoedd, y byddai’r sylwadau’n “boenus” i’r rhai sy’n ddifrifol wael a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19.

Helynt

Profodd Sajid Javid yn bositif ar Orffennaf 17, a chafodd y prif weinidog Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak gyngor i hunanynysu.

Mae disgwyl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben yfory (dydd Llun, Gorffennaf 26).

Roedd y ddau wedi ceisio osgoi hunanynysu ar y dechrau, gan ddweud y bydden nhw’n cymryd rhan mewn cynllun peilot ond fe wnaethon nhw dro pedol yn dilyn beirniadaeth.

“Dw i wedi dileu trydariad oedd yn defnyddio’r gair ‘cwato’,” meddai Sajid Javid ar Twitter.

“Ro’n i’n mynegi diolchgarwch fod y brechlynnau’n ein helpu ni i frwydro’n ôl fel cymdeithas, ond roedd yn ddewis gwael o ran y gair ac rwy’n ymddiheuro’n ddiffuant.

“Fel nifer, dw i wedi colli anwyliaid i’r feirws ofnadwy yma a fyddwn i byth yn lleihau ei effaith.”