Mae Arlene Foster, cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, wedi ymuno â GB News wrth iddi ddychwelyd i fywyd cyhoeddus am y tro cyntaf ers iddi adael ei swydd.

Bydd hi’n gyfrannwr gyda’r orsaf deledu sy’n cystadlu yn erbyn BBC a Sky fel gwasanaeth newyddion amgen.

Bydd hi’n cyfrannu at y rhaglen Political Correction fydd yn cael ei chyflwyno gan Nigel Farage, cyn-arweinydd UKIP.

Mae’n dweud ei bod hi wedi ymuno â’r orsaf er mwyn dod â Gogledd Iwerddon i ganol gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, a’i bod hi’n gobeithio am “sgwrs waraidd mewn ffordd ystyrlon”.

Mae hi’n ymuno â’r cyn-gyflwynydd chwaraeon ar Sky Sports Kirsty Gallacher, cyn-gyflwynydd y BBC Simon McCoy a chyn-gyflwynydd ITV Alastair Stewart.

Cymryd y ben-glin, gadael GB News, a rhybudd i Gymru am gulni meddwl

Alun Rhys Chivers

Guto Harri yn siarad â golwg360 ar ôl gadael y sianel deledu newydd ddadleuol

Guto Harri ddim yn cyflwyno ar GB News wedi iddo gefnogi chwaraewyr pêl-droed Lloegr

Aeth y Cymro lawr ar un ben-glin yn fyw ar yr awyr i ddangos ei gefnogaeth – gan dorri rheolau’r sianel, yn ôl ei benaethiaid

Angharad Mair a GB News

Iolo Jones

“Gyda’r Deyrnas Gyfunol ar ei gwely angau – yn ôl rhai – mae ceiliog arall wedi llamu i’r talwrn…”