Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod hanner carcharorion y Berwyn ger Wrecsam wedi gwrthod brechlyn Covid-19 – ond mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn wfftio’r ffigurau hynny.

Hyd at ddydd Mawrth (Gorffennaf 20), roedd 1,816 o garcharorion wedi cael cynnig brechlyn ond dim ond 52% – neu 946 – oedd wedi cael dos cyntaf.

Mae llai na 30% – 532 – wedi’u brechu’n llawn, yn ôl ystadegau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ond mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn amau’r ffigurau, gan ddweud bod mwy na hynny wedi’u brechu, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi’r ffigurau i brofi hynny.

Daw hyn wrth i’r cylchgrawn Inside Time ddweud bod hyd at ddau draean o garchorion y Deyrnas Unedig wedi gwrthod brechlyn.

66% oedd y ffigwr yng ngharchar y Berwyn hyd at fis Mehefin, a’r gobaith yw y bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu unwaith yn rhagor.

Ymateb

“Mae pob un o’r 1,816 o ddynion yng Ngharchar Berwyn EM wedi cael cynnig y brechlyn Covid-19 ac mae gwybodaeth am fanteision brechu yn cael ei rhannu â nhw yn gyson,” meddai Gill Harris, cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd iechyd.

“Erbyn [dydd Mawrth], roedd 946 o ddynion (52%) wedi cael dos cyntaf, tra bod 532 (29%) wedi’u brechu’n llawn.

“Rydym yn parhau i annog y sawl sydd heb dderbyn y cynnig i gael brechlyn eto i ddod ymlaen er mwyn rhoi’r warchodaeth orau bosib iddyn nhw eu hunain rhag Covid-19.”

Ond yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae eu ffigurau brechu nhw yn uwch na’r rhai sydd wedi’u datgan gan y bwrdd iechyd er nad ydyn nhw wedi ymateb i gais am y ffigurau swyddogol.

Yn ôl y llefarydd, mae gan y carchar “uned ynysu” ar gyfer carcharorion sy’n profi’n bositif am Covid-19 ac sydd â symptomau.

Ac mae yna strategaeth brofi yn ei lle ar gyfer y staff a’r carcharorion, gyda phob carcharor ac aelod newydd o staff yn cael profion PCR, tra bod y rhai sydd ar fin gadael y carchar yn cael profion llif unffordd.