Roedd protestwyr “wedi croesi’r llinell” wrth ymgynnull y tu allan i gartre’r prif weinidog Mark Drakeford yng Nghaerdydd dros y penwythnos, yn ôl ei ragflaenydd Carwyn Jones.

Fe fu’n siarad â BBC Cymru ar ôl i gannoedd o bobol ddod ynghyd gydag uchelseinyddion a baneri yn y stryd ym Mhontcana i brotestio yn erbyn y cyfnodau clo a chyfyngiadau Covid-19.

Maen nhw wedi cael eu beirniadu gan y gwrthbleidiau, ac mae Carwyn Jones yn dweud bod y fath ddigwyddiad yn “hoff dacteg ymhlith y dde eithafol yn America”.

“Mae hwn yn dacteg sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y dde eithafol yn America, a chi’n gweld bod e’n dacteg mae rhai mo’yn mabwysiadu fan hyn,” meddai.

“Yn anffodus mae’n rhan o’r swydd – ni gyd yn gorfod mynd drwyddo fe.

“Ond ddylech chi ddim gorfod derbyn pobol yn sgrechian o flaen eich tŷ. Dylai fod yna ffin, a dylai’r ffin yna gael ei barchu.

“Lleiafrif bach o bobol yw hyn, pobl sy’n byw mewn byd afreal, nid yr un byd rydyn ni’n byw ynddo.

“Achos bod nhw methu derbyn fod y rhan fwyaf o bobol ddim yn cytuno gyda nhw, maen nhw’n mabwysiadu’r tactegau hyn.”

Y brotest

Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw’n ymwybodol fod protest ar y gweill a bod disgwyl oddeutu 500 o bobol ger Neuadd y Ddinas cyn gorymdaith trwy’r brifddinas.

Yn ôl yr heddlu, roedd y brotest yn un heddychlon a chafodd neb ei arestio.

Ond fe fu nifer o wleidyddion y gwrthbleidiau’n beirniadu’r brotest ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig nad yw “aflonyddu fyth yn dderbyniol”.

“Dylai’r bobol oedd yn protestio y tu allan i gartref preifat Mark Drakeford ddoe deimlo cywilydd,” meddai Delyth Jewell o Blaid Cymru dros y penwythnos.

“Does dim lle i fwlio na bygwth yn ein gwleidyddiaeth – fe wnaeth eu hymddygiad groesi ffin.

“Gymru: rhaid i ni fod yn well na hyn. Nid dyma pwy ydyn ni.

“Dymuniadau gorau i Mark a’i deulu.”

Ychwanegodd Kevin Brennan, yr Aelod Seneddol Llafur y dylai “pob person gweddus gondemnio hyn”.

Llacio

Cafodd y brotest ei chynnal ryw wythnos ar ôl i Mark Drakeford gyhoeddi cynlluniau ei lywodraeth i lacio cyfyngiadau Covid-19 erbyn Awst 7.

Ond bydd yna orfodaeth o hyd i wisgo mygydau yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus.

“Rydym wedi gallu llacio rhan fwyaf o’r cyfyngiadau diolch i waith caled pobl ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai llefarydd ran ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r pandemig yn bell o fod wedi gorffen, ac mae gennym i gyd rhan bwysig i chwarae er mwyn diogelu Cymru.”

Protestwyr wedi ymgynnull ger cartref Prif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd

Mae llawer ar y cyfryngau cymdeithasol wedi galw eu gweithredoedd yn “idiotig”.