Mae diffoddwyr wedi bod yn ceisio rheoli tanau mawr yng Nghatalwnia sydd wedi llosgi 1,300 hectar o dir, gan gynnwys caeau a choedwigoedd.

Mae lle i gredu y gallai effeithio 5,000 hectar o dir yn y pen draw.

Fe ddechreuodd y tanau yn Santa Coloma de Barberà yn rhanbarth Tarragona brynhawn ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 25), cyn lledu i bentref Bellprat yn sir Anoia gyfagos.

Fe allai’r tanau ledu ymhellach i ardal Sant Martí de Tous os na fyddan nhw’n cael eu rheoli.

Yn ôl yr awdurdodau, rhain yw’r tanau mwyaf dinistriol yng Nghatalwnia yr haf yma ac maen nhw wedi rhybuddio trigolion i fod yn ofalus dros ben ac i geisio aros yn eu cartrefi gymaint â phosib.

Mae mwy na 400 o bobol wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau, gan gynnwys 300 o ddiffodwyr, 16 o unedau o’r awyr, 50 o weithwyr brys o’r fyddin, 70 o wirfoddolwyr o dimau coedwigaeth a nifer o ffermwyr.