Wrth siarad â golwg360, mae’r newyddiadurwr Guto Harri wedi bod yn disgrifio’r digwyddiadau arweiniodd at ei ymadawiad o sianel deledu GB News, gan ddadlau ei bod hi’n well cael y ddadl ynghylch ‘cymryd y ben-glin’, a cheisio’i hennill, na “chau’r ddadl i lawr”.
Fe benderfynodd e gymryd y ben-glin yn ystod ei sioe ar y sianel wrth drafod y ffrae hiliaeth a ddigwyddodd ar ôl ffeinal yr Ewros, wrth i chwaraewyr croenddu Lloegr gael eu targedu ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl methu ciciau o’r smotyn.
Roedd tîm Lloegr wedi cael eu beirniadu a’u bŵio am gymgryd y ben-glin i brotestio hiliaeth o’r fath ar ddechrau’r twrnament – gyda’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn dweud bod hawl gan gefnogwyr eu bŵio gan alw’r weithred o gymryd y ben-glin yn “gesture politics“.
Cafodd Guto Harri ei ddiarddel gan y sianel yn dilyn ymateb chwyrn y gynulleidfa i’w weithred, gyda phenaethiaid GB News yn dweud ei fod e wedi ymddwyn “yn groes i safonau golygyddol”.
Ond mae’n dweud nad yw’n difaru gwneud hynny ar yr awyr, a’i fod wedi gwneud hynny yn dilyn trafodaeth â chriw’r rhaglen.
Yn ddiweddarach, cyhoeddodd y sianel y byddai Nigel Farage yn ymuno â nhw fel cyflwynydd, a hwnnw’n datgan na fyddai’n “cymryd y ben-glin er lles neb ar y sioe hon”.
“Pwynt syml ond pwysig fod yna ddim lle i hiliaeth”
Cyn mynd ar yr awyr, roedd Guto Harri yn ymwybodol fod ei gyd-gyflwynydd, Mercy Muroki, yn “wrthwynebus” i’r weithred, meddai.
Ond ag yntau’n Babydd, mae’n dweud ei fod e’n hen gyfarwydd â ‘chymryd y ben-glin’ fel gweithred o “wyleidd-dra”.
Ac mae’n dweud ei fod wedi bod yn chwilfrydig ar ôl gweld y golygfeydd yn Wembley a’r gamdriniaeth a ddilynodd.
“Yn y gorffennol, sa i wedi bod yn frwd, dwi wedi wyndro tybed a oes angen gwneud hyn o flaen pob gêm bêl-droed,” meddai.
“Ond ar ôl gweld yr ymosodiadau hiliol ddaeth ar ôl y gêm nos Sul ddiwetha’, ro’n i yn meddwl, ‘Dwi’n deall nawr pam fod y bois yma’n teimlo, bob tro maen nhw’n mynd ar y cae, fod angen jyst gwneud e, jyst i wneud pwynt syml, pwerus’.
“Doedd e’n ddim byd i wneud ag unrhyw beth arall, jyst y pwynt syml ond pwysig fod yna ddim lle i hiliaeth mewn pêl-droed.
“Efallai bod lot ohonon ni wedi meddwl bod y sefyllfa’n well nag yw e, yn sicr yn fy achos i.
“Dwi ddim yn dilyn Lloegr, dwi ddim yn dilyn unrhyw bêl-droed a dweud y gwir. Does gyda fi ddim lot o ddiddordeb mewn pêl-droed, ond mae’r rhain yn ddynion ifanc, anrhydeddus iawn, mae rhai ohonyn nhw wedi dadlau dros bob math o achosion da, ac mae’r syniad bo nhw’n cael yr abuse hiliol yma jyst yn fochaidd.
“Ac wedyn ro’n i’n meddwl, galla i wneud y pwynt yna, wrth gwrs y galla i.
“Byddai’n fwy pwerus tasai rhywun fel fi fyddai ddim wedi cymryd y ben-glin o’r blaen jyst yn dweud, o dderbyn mai dyna’r darlun mawr, fod rhaid i ni gyd fod yn gyfforddus gyda dweud mai dyna pam mae pobol yn ei wneud e.
“Ddim achos bo nhw’n Farcswyr, neu bo nhw eisiau dymchwel cyfalafiaeth, torri cyllid yr heddlu a’r holl bethau yna sydd yn cael eu cysylltu gyda’r mudiad Black Lives Matter.
“A wnes i jyst ei awgrymu e, yn llythrennol fel ro’n ni’n cerdded mewn i’r stiwdio, a phawb yn edrych ar ei gilydd ac yn meddwl, “wel, ym, os ti mo’yn, gwna fe i gamera 3” neu beth bynnag.
“Felly roedd e’n syniad eitha’ byrfyfyr neu fympwyol, ond yn un oedd wedi’i wreiddio mewn dadl ro’n i wedi bod yn meddwl amdani am ddyddiau.
“Ond roedd e’n un dwi ddim yn ei ddifaru.”
Ymateb chwyrn ar unwaith
O fewn dim o dro, fe ddaeth yn amlwg fod y weithred, yn debygol o arwain at ffrae fawr.
“Tra ro’n i ar yr awyr, roedd y pennaeth digidol yn dod ar y set bob awr i ddweud beth oedd yr ymateb i beth roedden ni’n ei drafod ar y sioe, felly ryw hanner awr ar ôl i fi wneud e, daeth hi arno a dweud, ‘Na, dy’n nhw ddim yn lico fe ar y cyfan!’
“Maen nhw fel arfer yn edrych ar ddilynwyr GB News i ddechrau. Erbyn diwedd yr ail awr, roedd hi’n amlwg fod lot ohonyn nhw ddim yn lico fe.
“Erbyn diwedd y dydd, roedd yr holl beth wedi mynd ychydig bach yn hurt! Wnes i ei ddisgrifio fe yn y Sunday Times fel tsunami o siom a chasineb a gwylltineb.
“A wedyn, y peth hollol baradocsaidd… y pitch cyhoeddus oedd bo ni yno i amddiffyn rhyddid barn i wneud yn sicr bo ni’n gallu trafod pob math o bethau a bo ni ddim yn osgoi’r ddadl ond yn cael y ddadl, dim ots pa mor sensitif neu anghyfforddus mae hi i bobol.”
Wrth ddisgrifio pwrpas arall y sianel, mae’n dweud mai’r bwriad oedd croesawu lleisiau sy’n dueddol o gael eu cau i lawr mewn llefydd eraill – a dyna, meddai, lle mae’r eironi yn y sefyllfa.
“Heb unrhyw ymwybyddiaeth o ba mor hurt oedd e, fe ddaeth y llef fawr wrth y dorf i ganslo fi a chau fi lawr, a do’n nhw ddim eisiau clywed y ddadl!
“Roedd rhai, a bod yn deg, yn anghytuno â fi a rhai yn cytuno – dim lot – ond roedd rhai yn cytuno â fi a ’nghyd-gyflwynwyr i, chwarae teg, yn anghytuno efo’r gesture, ond yn cytuno’n gryf efo’n hawl i’w wneud e.”
‘Gwrando ar y lleisiau mwyaf croch’
Ond wrth ymateb i’r helynt, mae’n cyhuddo’r sianel o “wrando ar y lleisiau mwyaf croch a ddim eistedd ’nôl a meddwl tybed lle mae’r gynulleidfa ehangach”.
“Felly fe aethon nhw gyda’r bobol fwya’ gwyllt, fwya’ croch, fwya’ swnllyd, a chymryd fi off yr awyr,” meddai.
“Roedd hwnna’n ddewis mawr iddyn nhw yn y diwedd, roedden nhw’n dewis gwrando ar yr eithafwyr yn hytrach na chwilio am y gynulleidfa gymhedrol roedden nhw wedi gobeithio’i denu pan sefydlwyd hi.
“Felly, i’r rheiny sy’n dweud pam ymuno yn y lle cynta’, wel… roedd yna bosibilrwydd o greu rhywbeth oedd yn werth ei gael am lot o resymau.”
Mae’n dweud bod ganddo fe “lot o ffydd” yn John McAndrew, un sydd hefyd wedi gweithio i’r BBC a Sky News ac a oedd yn bennaeth newyddion GB News tan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ag yntau hefyd wedi ymddiswyddo yn sgil yr helynt.
“Wnaeth e recriwtio lot o bobol dda iawn yno fel golygyddion, uwch-gynhyrchwyr a chynhyrchwyr,” meddai.
“Mae pobol dda ar yr awyr hefyd, ond fel tasai fy suspension i ddim yn dangos newid cyfeiriad despret, mewn gwirionedd, roedd jyst cyhoeddi Nigel Farage fel wnaethon nhw nos Sul yn fath o hoelen ola’, gan gadarnhau mai’r cyfan maen nhw’n mynd i’w wneud yw cosi rhagfarnau un garfan go grac ar ymylon gwleidyddiaeth yma ym Mhrydain.”
“Meddylfryd bach cul”
Mae’n bendant ei farn fod y fath agweddau’n bod yng Nghymru hefyd, ac yn dweud ei fod e’n ei “ffeindio’n depressing iawn”.
“Y rheswm o’n i eisiau mynd atyn nhw [GB News] oedd bo fi yn credu – ac mae hyn yn wir yng Nghymru – fod gormod o bobol sydd wedi cyrraedd rhyw bwynt cul ofnadwy, ryw feddwl caëedig ofnadwy o ran condemnio rhywbeth heb ei ddarllen e neu heb ei wylio fe neu heb ei ystyried e neu heb glywed beth yw’r ddadl goll,” meddai.
“Mae pobol jyst yn edrych am y ciw lleia’ ac yn neidio ar y bandwagon, felly roedd pobol wedi penderfynu bod hon yn orsaf adain dde hiliol afiach pan doedd fy rhaglenni i i gyd ddim byd tebyg.”
I’r gwrthwyneb, mae’n dweud bod yr amrywiaeth o ran gwesteion ar ei sioe ef – o Warren Gatland a Lawrence Dallaglio o’r byd rygbi, i weinidogion Llywodraeth Cymru fel Jeremy Miles a Vaughan Gething, a rhai llai amlwg hefyd – yn dyst i’r ffaith ei fod e wedi ceisio cynnig rhywbeth a fyddai at ddant pawb.
“Ry’n ni’n falch o’r rhaglenni yna,” meddai.
“I gondemnio rhywbeth heb ei wylio fe, heb wrando, heb edrych ar y bobol oedd yn mynd i fod yn rhan ohono fe, mae rhywbeth gwirioneddol bathetic am y meddylfryd bach cul yna.
“Dwi’n dweud hynna fel rhywun sydd wedi gadael ar y cyfle cynta’ unwaith roedd yna droad a fforc yn y lôn ac mi benderfynon nhw fynd i un cyfeiriad.
“Ond mae’r syniad bo ti ddim hyd yn oed yn agored i’r posibilirwydd bod yna sianel sydd yn mynd i roi mwy o sylw i Gymru, a mwy o sylw i bobol yn y lluoedd arfog, ac yn y gwasanaethau brys, ac i bobol sydd yn rhedeg eu busnesau eu hunain… ac i safbwyntiau gwahanol hefyd…
“Mae’r syniad bo ti jyst yn eistedd fan’na yn harthu ‘ffasgwyr!’ a ‘hiliaeth!’ a rhyw nonsens fel yna, dy’n nhw ddim gwell os mai dyna yw eu safbwynt nhw…
“Mae rhai ar Trydar yn gofyn “pam wnest ti ymuno yn y lle cynta?” – dy’n nhw ddim gwell na’r bobol yna sydd yn harthu heb fod wedi clywed fy nadl i…
“Maen nhw jyst yn gweld llun ohona i ac yn gofyn i fi gael fy nghanslo! Maen nhw cynddrwg â’i gilydd!”
Darganfod y tir canol?
Yr ateb i’r broblem, meddai, yw ceisio darganfod y tir canol, sef “y mwyafrif llethol o’r boblogaeth ar draws gwledydd Prydain, a thrwch pobol gall Cymru, y bobol sydd â diddordeb clywed ochr arall y ddadl, hyd yn oed gan bobol maen nhw’n anghytuno’n groch gyda nhw!”
“Achos mae’n well cael y ddadl ac ennill y ddadl nag i gau’r ddadl lawr, ac ry’n ni wedi cyrraedd sefyllfa ofnadwy ym Mhrydain – gan gynnwys yng Nghymru – lle ry’n ni jyst yn gweiddi ar ein gilydd heb wrando ar ein gilydd,” meddai.
“Mae pobol wedi ’ngalw i’n Farcsydd, yn dweud bo fi’n woke – mae’n chwerthinllyd!
“Mae’r rhan fwya’ ohonyn nhw yn dweud, ‘ti ddim yn ddigon da i gael gyrfa gyda gorsaf deledu gall’.
“Unwaith eto, does dim angen i ti edrych yn bell i weld bod gyda fi ugain mlynedd gyda’r BBC dan fy melt – hobi oedd hwn i ryw raddau, un rhaglen wythnosol lle mae’r gynulleidfa’n mynd am rywbeth hollol wahanol.
“Felly mae’r culni yna a dewis bod yn anwybodus yn sefyllfa drist a pheryglus yn y diwedd.
“Unwaith eto, mae’r syniad bod rhywun yn gallu eistedd adref yn dweud, ‘O, sianel ffasgaidd, ddylech chi ddim cael dim byd i wneud â hi’, ar y pwynt yna, cyn bod pobol fel fi a John McAndrew yn gadael, a chyn bo nhw’n dangos bo nhw’n gwrando ar y dorf groch – mae jyst yn dangos culni meddwl sydd yn drist.”
“Taflu’r rhwyd yn ehangach” neu “fwydo cig coch gwaedlyd i gŵn uffern”?
Mae darganfod y tir canol – neu “taflu’r rhwyd yn ehangach” fel mae Guto Harri yn ei alw – yn hollbwysig os yw’r sianel am oroesi yn y tymor hir, meddai.
“Dwi wedi gweld Nigel Farage yn cerdded mewn i’r Wetherspoons yng Nghaerffili a dwi wedi’i weld e ar y stryd yng Nglyn Ebwy.
“Mae yna gefnogaeth aruthrol i’w safbwynt e mewn rhai rhannau o wledydd Prydain ac efallai bod yna ddigon ohonyn nhw i gynnal sianel… ond mae’n rhaid i fi, fel darlledwr gweddol brofiadol, gredu yn y diwedd bod rhaid taflu’r rhwyd ychydig yn ehangach i ddal digon o bysgod ac i gynnal sianel fasnachol.
“Mae yna bobol dda ar y sianel ac efallai ar ôl i bethau dawelu, awn nhw nôl i gyfrej mwy cytbwys efo mwy o bwyslais ar y straeon sy’n cael eu hanwybyddu a’r cymunedau sy’n cael eu hanwybyddu.
“Ond os ydyn nhw nawr jyst yn mynd i fwydo cig coch gwaedlyd i gŵn uffern, yna base’n neis meddwl fod yna ddim dyfodol iddyn nhw.”