Mae Undeb Amaethwyr Cymru, ynghyd â sefydliadau amaethyddol eraill, yn galw ar ffermwyr i gadw’n saff ar y fferm yr haf hwn.

Daw hyn ar ôl i ffigurau newydd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yr HSE) ddangos mai record diogelwch ffermio yw’r gwaethaf o unrhyw alwedigaeth yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Dangosa’r ffigyrau bod 41 o bobol wedi’u lladd ar ffermydd Prydain Fawr yn 2020/2021 – bron i ddwbl ffigwr y llynedd.

Mae’r ffigyrau hyn yn “peri pryder mawr” i Undeb Amaethwyr Cymru.

Yr achos mwyaf cyffredin o farwolaeth oedd ffermwyr yn cael eu taro gan gerbyd sy’n symud, yn ôl yr HSE.

“Yn anffodus, rydyn ni i gyd yn gwybod am rywun sydd wedi cael ei anafu’n ddifrifol neu wedi colli ei fywyd oherwydd damwain fferm,” meddai Glyn Davies, Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a Chadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Ceredigion.

“Mae’r ffigurau a ryddhawyd gan yr HSE eleni yn peri pryder mawr ac mae’n rhaid i ni gofio nad niferoedd neu ystadegyn yn unig yw’r rhain – rhieni, brodyr, chwiorydd, ffrindiau a hyd yn oed plant.

“Wrth i wyliau haf yr ysgol a chynaeafu ddechrau’n llawn, mae mor bwysig ein bod yn cwblhau asesiad risg ar gyfer y tasgau y byddwn yn eu cyflawni.

“Rydyn ni fel ffermwyr yn naturiol yn meddwl ein bod ni’n adnabod ein fferm a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawni ein tasgau dyddiol.

“Ond gall peidio â’u gwneud [asesiadau risg] gostio eich bywyd.”