Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i weithredu newidiadau i reolau hunanynysu ac ap Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Hoffai’r blaid weld adolygiad i “sensitifrwydd” yr ap a’r rheolau hunanynysu.

Daw hyn ar ôl i dros 500,000 o bobol gael eu hysbysu, neu eu ‘pingio’, gan yr ap yng Nghymru a Lloegr mewn un wythnos.

Yn sgil hyn, mae Russell George, llefarydd iechyd cysgodol Ceidwadwyr Cymru, yn rhybuddio am “y ping-demig”.

Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gydweithio i weithredu newidiadau i reolau hunanynysu a’r ap.

“Angen adolygiad ar unwaith”

“Rydym wedi cymryd camau gwych gyda’n rhaglen frechu ac wedi adfer llawer o ryddid, ond gallai ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a’n hadferiad economaidd gael eu llesteirio’n ddifrifol gan y ping-demic,” meddai.

“Mae angen adolygiad ar unwaith ar sensitifrwydd ap y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rheolau ynysu ledled y Deyrnas Unedig gan ei fod yn rhyfedd fod unigolion sydd wedi cael eu brechu ddwywaith, a rhai sydd eisoes wedi cael ei heintio â Covid-19, yn cael eu gorfodi i ynysu.

“Mae angen i’r cyfnod hunanynysu 10 diwrnod i bobol sydd wedi derbyn y ddau bigiad ddod i ben – ac mae angen gweithredu system ar gyfer y rhai nad ydynt wedi’u brechu’n llawn eto.

“Rwy’n erfyn ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gydweithio ar unwaith fel y gellir gweithredu newidiadau’n gyflym fel nad yw ein hadferiad yn dod i ben.”

Dim newid yng Nghymru tan 7 Awst

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y byddwn yn dileu’r gofyniad i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, sy’n gysylltiadau agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, i hunanynysu fis nesaf.

“Daw’r rhain i rym yn ystod y cylch adolygu coronafeirws nesaf, sy’n dechrau ar 7 Awst.

“Bydd hi dal yn ofynnol i bawb sydd â symptomau coronafeirws, neu sy’n profi’n bositif am coronafeirws, hunanynysu – waeth pa mor hen ydyn nhw neu a ydyn nhw wedi cael eu brechu ai peidio.”