Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cadw’r holl opsiynau ar y bwrdd” ar Brotocol Gogledd Iwerddon, gan gynnwys sbarduno cymal a fyddai’n golygu y byddai Prydain yn diystyrru rhannau o’r cytundeb rhyngthi a’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl y Gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost, nid yw’r protocol, a gafodd ei gyflwyno er mwyn osgoi ffin galed gydag Iwerddon drwy gadw Gogledd Iwerddon yn y farchnad sengl i bob pwrpas, “yn gynaliadwy yn y ffordd mae’n gweithio ar hyn o bryd”.
A dywedodd mai’r unig ffordd o wneud iddo weithio oedd “lleihau neu ddileu’r rhwystrau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, yn enwedig o ran nwyddau sy’n symud i’r cyfeiriad hwnnw”.
Mae cyfnod gras i ganiatáu i gigoedd oer barhau i gael eu symud i Ogledd Iwerddon eisoes wedi’i ymestyn tan 30 Medi, ond nid oes cytundeb o hyd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar sut i ddatrys anghydfodau yn y tymor hir.
“Nid yw’r protocol wedi gweithio”
Cymerodd Arweinydd y DUP Syr Jeffrey Donaldson ran mewn cyfarfod rhithwir gydag is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, fore Llun (19 Gorffennaf).
Disgrifiodd ei neges i Marcos Sefcovic fel un “syml” sef “nid yw’r protocol wedi gweithio” a mynnodd fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ei negodi eto.
Ond mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, wedi dweud nad y protocol sy’n achosi’r problemau y mae’r rhanbarth wedi’u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd yr Arglwydd Frost wrth Bwyllgor Craffu Ewrop: “Mae’r holl opsiynau ar y bwrdd, rydym bob amser wedi dweud hynny ac yn parhau i’w ddweud, ac nid ydym yn diystyru unrhyw beth.
Craidd y broblem
Mae’n honni mai “craidd y broblem” yw bod “y ffin rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn rhy … gymhleth … mewn gwahanol ffyrdd, a dyna’r hyn y mae’n rhaid ei ddatrys.
“Rwy’n credu mai’r hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd yw bod yn rhaid iddo weithio mewn ffordd wahanol os ydym am ddod o hyd i’r llwybr sefydlog wrth symud ymlaen.”
Pan ofynnwyd iddo a oedd hyn yn golygu y gallai’r Deyrnas Unedig sbarduno Erthygl 16, sy’n caniatáu i rannau o’r cytundeb gael eu diystyru, dywedodd “mae pob opsiwn yn aros ar y bwrdd, nawr ac yn y dyfodol”.
Dywedodd wrth y pwyllgor: “Os yw gwaith y protocol yn tanseilio Cytundeb Gwener y Groglith, yna nid yw’r protocol yn gwneud ei waith.”
Mae unoliaethwyr yn gwrthwynebu’n gryf y gwiriadau ychwanegol ar nwyddau sy’n cyrraedd Gogledd Iwerddon o weddill y Deyrnas Unedig fel rhywbeth sy’n tanseilio’r undeb.
A dros y penwythnos fe wnaeth archfarchnadoedd blaenllaw gwyno am ofnau am yr effaith ar gyflenwadau i’r rhanbarth unwaith y bydd cyfnodau gras amrywiol ar wiriadau’n dod i ben.
Yr wythnos diwethaf, nododd y DUP saith “prawf” ar y protocol, sy’n cynnwys addewid i beidio â gwirio unrhyw fath o nwyddau sy’n cael eu hanfon i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, a chydweddoldeb â Deddf Uno hynafol sy’n dweud y dylai pob rhan o’r Deyrnas Unedig fod ar yr un sylfaen o ran masnach.
“Nid yw hynny yn mynd i ddigwydd”
Fodd bynnag, dywedodd llywydd Sinn Fein Mary-Lou McDonald fod unrhyw syniad o newid y protocol yn “ffantasi”, gan ychwanegu ei fod “yma i aros”.
Disgrifiodd y protocol fel “yr ateb, nid y broblem”.
“Nid yw’r protocol yn mynd i unrhyw le,” meddai wrth ohebwyr ym Melffast, “mae wedi’i drafod, mae hefyd wedi’i gymeradwyo nid yn unig gan yr ochr Ewropeaidd ond hefyd gan Lywodraeth Prydain.
“Rwy’n meddwl felly, gyda pharch, fod unrhyw honiadau y gellir diddymu’r protocol yn ffantasi, nid yw hynny yn mynd i ddigwydd.”