Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei “rhybudd gwres llethol ambr” cyntaf erioed wrth i rannau o’r Deyrnas Unedig gyrraedd 33C.

Mae’r rhybudd yn cwmpasu’r rhan fawr o Gymru, de-orllewin Lloegr i gyd, a rhannau o dde a chanolbarth Lloegr – a bydd yn parhau mewn grym tan ddiwedd dydd Iau (22 Gorffennaf).

Daw hyn ar ôl i recordiau tymheredd gael eu gosod dros y penwythnos.

Ond mae disgwyl i’r tymheredd godi ymhellach yn gynnar yr wythnos hon, gan gyrraedd 33C (91.4F) o bosibl mewn rhai ardaloedd.

Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol yng Nghymru:-

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg