Mae teulu tad a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llandeilo wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Arwel Davies, 40 oed o Lanwrda, mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ddydd Iau, Gorffennaf 8, gan adael ei wraig, dau o blant, ei dad, a’i frawd a’i chwaer.

Roedd yn ddyn busnes llwyddiannus, ac yn gyfrifol am ddatblygu busnes Adeilad Cladding, a gafodd ei sefydlu gan ei dad, Eirian.

Yn chwaraewr rygbi o fri, roedd yn adnabyddus iawn yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri, fel chwaraewr a chefnogwr lleol.

Ynghyd â chwarae rygbi, cymerodd rôl fel hyfforddwr Y Porthmyn Iau, ac roedd e’n hyfforddi’r tîm dan naw oed.

Fel ei dad, roedd ganddo ddiddordeb mewn hedfan fry yn ei falŵn aer poeth dros Ddyffryn Tywi, a bu’n rhannu’r profiad â nifer o’i deulu, ffrindiau a chwsmeriaid.

“Ni fydd ein bywydau byth yr un peth wedi darfod torcalonnus Arwel”

“Does dim geiriau i ddisgrifio’r effaith a gafodd Arwel ar fywydau llawer, yn enwedig ei annwyl wraig Laura, ei blant hyfryd Owen a Sofia, ei dad balch Eirian a’i frawd a’i chwaer ffyddlon Ioan a Catrin,” meddai’r teulu mewn teyrnged drwy law Heddlu Dyfed Powys.

“Ni fydd ein bywydau byth yr un peth wedi darfod torcalonnus Arwel, serch hyn cydiwn yn dynn yn yr atgofion hoffus, arbennig a adawodd Arwel gyda ni, ei wên ddireidus, ei lygaid glas sgleiniog, a’i agwedd i fyw bywyd i’r eithaf.

“Mae’r gefnogaeth a dderbyniwyd gan y gymuned leol, y gymuned rygbi a’r teulu balwnau wedi bod yn gysur gwirioneddol i’w deulu a ffrindiau, ers colled Arwel. Mi fyddai’n hollol darostwng gan y geiriau caredig a rannwyd gan bawb.

“Roedd Arwel yn ddyn busnes llwyddiannus wedi ei hyfforddi o dan adain staff teyrngar Adeilad Cladding ers dros 20 mlynedd gan alluogi Arwel i ddatblygu’r busnes a ddechreuodd ei dad yn llwyddiannus dros 40 mlynedd yn ôl.

“Mae ei staff dros y blynyddoedd wedi dangos anogaeth anhygoel, yn cefnogi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y busnes teuluol. Maent wedi bod yn gefn aruthrol yn ystod y diwrnodau tywyll ers darfod Arwel gan gynnal y busnes fe y byddai Arwel ei hun wedi gwneud.

“Roedd Arwel yn chwaraewr o fri yn adnabyddus iawn yn ein clwb rygbi lleol, Clwb Rygbi Llanymddyfri, fel chwaraewr a chefnogwr lleol.

“Rydym bob un yn hynod falch ohono”

“Fe ddechreuodd Arwel wrth chwarae i’r ieuenctid, cyn symud ymlaen i chwarae rygbi uwch i’r clwb, gan chwarae un tymor i’r tîm XV 1af, a hyd heddiw roedd yn parhau i chwarae, gyda’r geiriau ‘un flwyddyn arall’ yn atseinio yn ein cartref. Roedd Arwel nid yn unig yn chwarae rygbi ond cymerodd rôl fel hyfforddwr ‘Y Porthmyn Iau’ ac roedd ar hyn o bryd yn hyfforddi tîm o dan 9, y tîm yr oedd Owen yn chwarae.

“Yn ogystal, dilynodd Arwel ddiddordeb ei dad gan hedfan fry yn ei falŵn aer poeth dros Ddyffryn Tywi, golygfa heb ei ail ar fore rhewllyd neu ar noson braf o haf. Bu Arwel yn gyfrifol am rannu profiadau hedfan bythgofiadwy i lawer o’i deulu, ffrindiau a chwsmeriaid.

“Cyflawnodd Arwel gymaint yn ystod ei 40 mlynedd, rydym bob un yn hynod falch ohono.

“Mae’r nefoedd wedi elwa o wir bonheddwr.”