Mae nifer o achosion Covid-19 wedi cael eu canfod mewn parc gwyliau yn y Rhyl, yn ôl Cyngor Sir Ddinbych.

O ganlyniad, bydd y Tîm Rheoli Digwyddiad, sy’n yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn rheoli’r sefyllfa.

Daeth cadarnhad fod 11 o achosion positif o Covid-19 ymhlith staff Parc Lyons Robin Hood, Y Rhyl, gyda chyfleusterau lletygarwch a hamdden dan do ar gau ar hyn o bryd.

Mae gweddill y safle, gan gynnwys y pwll nofio, yn dal ar agor.

“Gweithio i leihau unrhyw ledaeniad pellach”

Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Moderneiddio a Lles yng Nghyngor Sir Ddinbych ac aelod o’r Tîm Rheoli Digwyddiad fod y Cyngor Sir “yn gweithio’n agos gyda Pharc Lyons Robin Hood ac mae trefniadau’n cael eu gwneud i staff gael eu profi”.

“Hoffem ddiolch i Barc Lyons Robin Hood am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn,” meddai.

“Rydym yn ymwybodol fod Covid-19 yn dal i gylchredeg yng ngogledd Cymru a hoffem sicrhau preswylwyr ein bod yn gweithio i leihau unrhyw ymlediad pellach.

“Mae hyn yn cynnwys cynnal profion ychwanegol yn y sir dros y dyddiau nesaf yn ogystal â phroses Profi, Olrhain a Diogelu gwell.

“Dylai unrhyw un sy’n datblygu symptomau Covid-19 archebu prawf PCR mewn canolfan brawf ar unwaith ac yn dilyn canlyniad positif, dylai preswylwyr hunanynysu a rhannu’r holl wybodaeth berthnasol gyda chynghorwyr Profi, Olrhain a Diogelu.

“Rydym hefyd yn atgoffa’r rhai sy’n gymwys a ddim yn dangos symptomau i wneud profion Llif Unffordd rheolaidd gartref, sydd am ddim, ac y gellir eu harchebu ar-lein i’w danfon gartref.

“Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y firws a chadw achosion i lawr.

“Rydyn ni’n atgoffa’r cyhoedd bod ganddynt rôl hanfodol o ran atal ymlediad y coronafirws ac iddynt barhau i fod yn wyliadwrus a gweithredu’n ofalus.

“Gallant wneud hyn trwy gadw at reoliadau Llywodraeth Cymru a thrwy gadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol – hynny yw, aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo’n rheolaidd.”