Cafodd y Frenhines gyngor na ddylai agor y Cynulliad.

Dengys dogfennau gan lywodraeth y Deyrnas Unedig fod y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyngor cyn refferendwm datganoli 1997 na ddylai’r Frenhines agor Cynulliad Cymreig sydd nawr yn cael ei adnabod fel Senedd Cymru.

Ar y pryd, ysgrifennodd swyddog yn Downing Street na fyddai’r corff newydd yn gallu creu ei ddeddfau ei hun, petai’n cael ei sefydlu, ac na fyddai “cysylltiadau uniongyrchol gyda’r sofran yn codi”.

Er hynny, roedd y Frenhines, Dug Caeredin a’r Tywysog Charles yn bresennol pan gafodd y Cynulliad ei agor ar Mai 27, 1999.

“Nid ydym o’r farn y byddai’r un driniaeth yn briodol yn achos y Cynulliad Cymreig, sydd heb unrhyw swyddogaethau deddfwriaethol sylfaenol,” meddai’r llythyr a gafodd ei ysgrifennu ar Mehefin 19, 1997 ac yn nodi y dylai’r Frenhines agor Senedd Yr Alban.

Nid oedd y Cynulliad yn gallu creu ei deddfau ei hun nes 2011, yn dilyn refferendwm pellach.

“Maffia iaith”

Mae’r dogfennau, sydd wedi mynd i’r Archif Genedlaethol, yn dangos hefyd fod Tony Blair wedi cael ei annog i ymweld â Chymru cyn y refferendwm i ymgyrchu dros sefydlu Cynulliad.

Yn y cofnod, fe wnaeth un o swyddogion Downing Street fynegi pryder bod y rhan fwyaf o drafodaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwneud â refferendwm yr Alban.

Gan fod y farn o blaid ac yn erbyn datganoli yng Nghymru mor agos, roedd y sefyllfa’n “cyfiawnhau rhywfaint o’ch amser”, meddai’r swyddog, gan annog Tony Blair i ymweld â Chymru.

Fe wnaeth Tony Blair ymweld â de Cymru yn 1997 fel rhan o’r ymgyrch datganoli, ac mae cofnod arall yn dangos fod un o’i gynghorwyr wedi cwyno am “faffia iaith” yn ystod yr ymgyrch.

Yn ôl Pat McFadden, a oedd yn gynghorydd yn Downing Street ac yna’n Aelod Seneddol Llafur, ar siaradwyr Cymraeg oedd y bai fod canlyniad y refferendwm datganoli mor agos.

50.3% wnaeth bleidleisio o blaid datganoli, a chafodd y sylwadau eu gwneud gan Pat McFadden yn ystod ymchwiliad i weld pam fod y canlyniad mor agos.

Yn y nodyn, awgrymodd fod yr ymgyrch o blaid wedi methu â dadlau yn erbyn honiad yr ymgyrch Na y bydd pobol “yn cael eu gorfodi i siarad Cymraeg” petai’r Cynulliad yn cael ei sefydlu.

Roedd yr ymosodiadau’n llwyddiannus, meddai, “oherwydd nad oeddem ni’n gallu rhoi rheswm cadarnhaol da dros gael Cynulliad”.

“Mewn geiriau eraill, byddai’r gost wedi bod yn fwy amddiffynadwy pe bai’n rhywbeth oedd pobol yn credu oedd werth ei gael,” meddai Pat McFadden yn y llythyr at Jonathan Powell, pennaeth staff Tony Blair.

“Gyda’r iaith Gymraeg rydych chi’n gwybod fy marn i – roedd hyn yn codi ofn ar bobl mewn rhannau helaeth o Gymru oedd eisoes yn gwrthwynebu’r maffia iaith.”