Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw am gynnig y brechlyn i rai plant dan ddeunaw oed.
Yn ol y Llywodraeth, bydda nhw’n dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JVCI).
Yn dilyn misoedd o ystyried a thrafod, mae’r JCVI bellach yn awgrymu y dylid cynnig y brechlyn i blant a phobol ifanc 12 i 15 oed sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol penodol sy’n eu rhoi mewn risg o Covid-19 difrifol.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n gyflym i adnabod yr unigolion hyn ac yn cynnig y brechlyn iddyn nhw.
Mae pobol ifanc 16 ac 17 oed sydd â risg uwch o gael Covid-19 difrifol, eisoes i fod wedi cael cynnig brechlyn a bydd hynny’n parhau.
Dylai pobol ifanc a phlant 12 oed a hŷn sy’n byw gyda pherson sy’n imiwnoataliedig gael cynnig brechlyn Covid-19.
Mae’r JCVI hefyd yn cynghori ei bod hi’n rhesymol i ganiatáu amser o flaen llaw i gynnig brechlyn i blant sydd o fewn tri mis o droi’n ddeunaw oed, er mwyn sicrhau bod pobol sydd newydd droi’n 18 yn cael y brechlyn.
“Gwybodaeth gyfyngedig”
Ar hyn o bryd, dydy’r JCVI ddim yn argymell brechu pob plentyn. Esboniodd Eluned Morgan fod cyfraddau Covid ymhlith plant yn gymharol isel a bod gwybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am effeithiau’r feirws ar blant.
“Rwyf yn ymwybodol y bu galw am frechu plant i’w hatal rhag cael syndrom COVID-19 ôl-acíwt (COVID hir),” meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd.
“Mae cyfraddau Covid ymhlith plant yn gymharol isel ac mae gwybodaeth gyfyngedig o hyd am effeithiau uniongyrchol cyffredinol y feirws arnynt.
“Fodd bynnag, mae astudiaethau’n dod i’r amlwg sy’n dangos bod y risg hon yn isel iawn mewn plant, yn enwedig o’i gymharu ag oedolion, ac yn debyg i gymhlethdodau iechyd eilaidd heintiau feirysol anadlol eraill mewn plant.
“Mae fy swyddogion yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar y mater hwn ac wedi sefydlu grŵp i ystyried effeithiau Covid Hir ar oedolion a phlant a chydlynu’r ymateb eang sydd ei angen.
“Mae’r grŵp yn cynnwys arweinwyr polisi plant yn ogystal â chydweithwyr clinigol ac ymchwil. Mae’r grŵp newydd wedi ymrwymo i sefydlu is-grŵp, o dan gadeiryddiaeth Dr Mark Walker, i ystyried sefydlu llwybr gofal pediatrig i’w ddefnyddio gyda phlant â Covid Hir yng Nghymru.”
Hunanynysu
Ers ddoe (19 Gorffennaf), nid oes rhaid i oedolion sydd wedi’i brechu’n llawn, a phobol ifanc dan 18 oed, hunanynysu wrth ddychwelyd i Gymru o wledydd ar y rhestr oren.
Yr unig eithriad yw Ffrainc – wrth gyrraedd o Ffrainc, rhaid hunanynysu am ddeng niwrnod, hyd yn oed gyda dau frechlyn. Daw hyn yn sgil pryderon am amrywiolyn Beta, gan ei fod yn osgoi brechlynnau’n haws mae’n debyg.
Fis Awst, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dileu’r gofyniad ar bobol sydd wedi’u brechu’n llawn i hunanynysu os ydyn nhw’n gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif.
Er hynny, bydd hunanynysu’n parhau i chwarae rhan bwysig iawn i helpu i leihau lledaeniad y feirws, meddai Eluned Morgan, a bydd mesurau ar waith i bobol sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal.