Mae Dŵr Cymru yn galw ar bobol i beidio â gwastraffu dŵr yn sgil cynnydd mewn galw wrth i bobol fynd ar eu gwyliau yng Nghymru.

Mae’r cwmni wedi cadarnhau fod y galw am ddŵr yn agos at dorri’r record dros y penwythnos, wrth i Gymru fwynhau tywydd braf a phoeth.

Fel arfer, mae Dŵr Cymru’n trin ac yn cyflenwi 800 miliwn o litrau o ddŵr glân y dydd ar gyfer tair miliwn o gwsmeriaid, sydd yn ddigon i lenwi tua 320 o byllau nofio maint Olympaidd.

Dros y tridiau diwethaf, bu angen i Dŵr Cymru gyflenwi 15 miliwn litr ychwanegol bob dydd.

Gyda disgwyl y bydd 23 miliwn o bobol ar draws Prydain yn treulio eu gwyliau gartref eleni, mae Dŵr Cymru’n rhagweld y bydd y cynnydd yma’n parhau.

Mae’r cwmni’n disgwyl gweld cynnydd o 10% rhwng nawr a diwedd Medi, a gallai godi i gymaint ag 20% yn dibynnu ar y tywydd a niferoedd y twristiaid.

Cyngor ac awgrymiadau

O ganlyniad, mae’r cwmni’n dwysau cynhyrchiant ei weithfeydd trin dŵr, ac mae gwaith rhanbarthol ar y gweill mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda twristiaid, fel Sir Benfro, Gwynedd a Cheredigion.

Yn ogystal, maen nhw’n cynnig awgrymiadau a chyngor i gwsmeriaid er mwyn helpu i osgoi gwastraffu dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Peidio gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd.
  • Cael cawod fer yn lle bath.
  • Aros nes bod y peiriannau golchi dillad a llestri’n llawn cyn dechrau.
  • Peidio llenwi’r pwll padlo i’r ymylon, a defnyddio’r dŵr i ddyfrio planhigion.
  • Peidio â defnyddio taenellwr (sprinkler) i ddyfrio’r lawnt.

Mae’r cwmni hefyd yn gofyn i fusnesau wneud ymdrech ychwanegol i beidio â gwastraffu dŵr, yn arbennig busnesau fel parciau carafanau, cyrsiau golff, a ffermydd.

“Camau breision”

“Fel cwmni, rydyn ni’n disgwyl gweld ymchwydd yn y galw dros fisoedd yr haf mewn blwyddyn arferol, ac rydyn ni’n rhagweithiol yn ein dulliau o addasu ein gweithrediadau yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Gwasanaethau Cyflawni Cyfalaf gyda Dŵr Cymru.

“Bydd yr haf yma’n wahanol oherwydd y nifer o bobl sy’n bwriadu treulio eu gwyliau yng Nghymru, ac mae’n naturiol y bydd diwallu’r galw’n dod â sialensiau ychwanegol i’r cwmni.”

“Yn naturiol, rydyn ni’n croesawu pobl i dreulio’u gwyliau yng Nghymru ac rydyn ni am iddyn nhw gael amser da yma, ond mae angen iddyn nhw ymestyn y dŵr ymhellach nag arfer eleni.

“Dyna pam ein bod ni eisoes yn cymryd camau breision i sicrhau ein bod ni fel cwmni mor barod â phosibl. Ond mae angen i ni ofyn i’n cwsmeriaid a’r rhai sy’n ymweld â Chymru i chwarae eu rhan hefyd trwy ystyried sut maen nhw’n defnyddio dŵr, ac yn bwysicach na hynny, trwy beidio â’i wastraffu.

“Rydyn ni’n gweithio gyda pharciau carafanau i ddarparu cymaint o wybodaeth effeithlonrwydd dŵr â phosibl ar eu cyfer. Trwy gydweithio fel hyn, mae gennym ni’r cyfle gorau o sicrhau bod yna ddigon o ddŵr i bawb trwy gydol cyfnod yr haf,” ychwanegodd.

“Rhaid i ni gofio hefyd y gall cwsmeriaid ac ymwelwyr helpu trwy roi gwybod i ni os ydyn nhw’n gweld dŵr yn gollwng wrth fynd o gwmpas eu pethau yng Nghymru. Gorau po gyntaf y gallwn glywed am y broblem er mwyn i ni anfon tîm allan i’w thrwsio.”