Bydd Ben & Jerry’s yn stopio gwerthu eu hufen iâ ar y Llain Orllewinol, sy yn nwylo’r Israeliaid, a dwyrain Jerwsalem.
Dywed y cwmni fod gwerthu eu cynnyrch mewn ardaloedd a hawlir gan y Palesteiniaid yn “anghyson gyda’u gwerthoedd”.
Y cyhoeddiad yw un o’r gwrthdystiadau cryfaf gan gwmni adnabyddus yn erbyn polisi Israel o gartrefu ei dinasyddion ar dir a wladychwyd drwy ryfel.
Mae’r gymuned ryngwladol yn gweld polisi Israel fel un anghyfreithlon, ac un sy’n rhwystro heddwch.
Wrth ymateb, dywedodd Prif Weinidog Israel, Naftali Bennett, fod y penderfyniad yn un “anfoesol”, a’i fod e’n credu y bydd y penderfyniad yn “troi allan i fod yn gamgymeriad busnes, hefyd”.
Pryderon
Ni fydd Ben & Jerry’s yn adnewyddu eu trwydded er mwyn cynhyrchu na dosbarthu eu hufen iâ yn Israel pan fydd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn nesaf.
Mewn datganiad, cyfeiriodd y cwmni, sydd wedi’i leoli yn Vermont, at “bryderon sydd wedi’u rhannu gyda ni gan ein cefnogwyr a phartneriaid”.
Er na wnaethon nhw fanylu ar y pryderon, fis diwethaf fe wnaeth grŵp o’r enw Vermonters for Justice in Palestine alw ar Ben & Jerry’s i “ddod â’u rhan ym meddiant Israel o Palesteina, a’u camdriniaeth tuag at hawliau dynol Palesteinaidd i ben”.
Bydd eu cynnyrch yn parhau i gael ei werthu yng ngweddill Israel drwy drefniant gwahanol, ond nid yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu hawlio gan y Palesteiniaid.
“Anfoesol”
Galwodd Prif Weinidog Israel y penderfyniad yn “ildiad i bwysau parhaus a ffyrnig gan grwpiau gwrth-Israel eithafol”, gan ddweud fod y cwmni’n cydweithio gyda “terfysgaeth economaidd”.
“Mae’r penderfyniad yn anfoesol ac yn gwahaniaethu, gan ei fod e’n neilltuo Israel, yn niweidio Israeliaid a Phalesteiniaid, ac yn annog grwpiau eithafol sy’n defnyddio tactegau bwlio,” meddai’r weinyddiaeth mewn datganiad, gan alw ar Ben & Jerry i newid eu meddyliau.