Mae pêl-droediwr o Uwch Gynghrair Lloegr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd y chwaraewr ei arestio ddydd Gwener (16 Gorffennaf) a’i gyfweld gan yr heddlu cyn iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf: “Fe wnaeth swyddogion arestio dyn ddydd Gwener, 16 Gorffennaf , 2021 ar amheuaeth o droseddau rhyw yn erbyn plant.

“Mae ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.”

Mae’r pêl-droediwr wedi cael ei wahardd gan ei glwb tra bod yr ymchwiliad yn parhau, ac mae’r clwb wedi addo cynorthwyo’r heddlu gyda’r ymchwiliad.