Mae B&Q wedi penderfynu gofyn i bobol barhau i wisgo mygydau yn eu siopau, gan weithredu’r un polisiau dros y Deyrnas Unedig.
Erbyn hyn, dydi hi ddim yn ofynnol i bobol wisgo mygydau mewn siopau yn Lloegr, tra bod hynny’n parhau i fod yn ofynnol yn gyfreithiol yng Nghymru a’r Alban.
Mae prif weithredwr B&Q, Graham Bell wedi galw ar bobol i barhau i siopa’n ddiogel, gan ddweud y bydden nhw’n cadw mesurau ymbellhau cymdeithasol hefyd.
“Gadewch i ni siopa’n ddiogel. Wrth i’r canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol newid, mae siopa’n ddiogel yn parhau yn flaenoriaeth i ni,” meddai Graham Bell.
“Gwisgwch orchudd wyneb yn ein siopau os ydech chi’n gallu, os gwelwch yn dda.
Gwrando
“Rydyn ni wedi gwrando ar ein cwsmeriaid a chydweithwyr, ac wedi dewis bod yn gyson dros ein siopau yn y Deyrnas Unedig.
“Am y dyfodol rhagweladwy, rydyn ni’n gofyn i chi barhau i wisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod chi wedi’ch heithrio) wrth ymweld â’n siopau.
“Rydyn ni’n cadw mesurau ymbellhau cymdeithasol er mwyn eich helpu chi i siopa’n ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys marciau ar y llawr ac arwyddion er mwyn atgoffa pawb i barchu’r gofod sydd gan bobol eraill; swyddogion i’ch helpu chi i fynd o amgylch y siop yn ddiogel; gorsafoedd golchi dwylo; a sgriniau plastig wrth y tiliau.
“Rydyn ni’n gofyn i chi gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol hyn, a thalu gyda cherdyn neu’n ddigysyllt pan fo hynny’n bosib.”
Ychwanega’r datganiad fod y drefn Clicio + Chasglu yn parhau, yn ogystal â gwasanaeth danfon i’r cartref.
‘Rheoli’r pandemig’
“Rydyn ni eisiau gweld y pandemig yn cael ei reoli fel ein bod ni’n gallu symud ymlaen. Gadewch i ni wneud i hynny ddigwydd gyda’n gilydd,” meddai Graham Bell.
“Mae cadw chi, yn ogystal ag ein cwsmeriaid a’n staff yn sâff, yn parhau’n flaenoriaeth i ni.”
Mae gan B&Q nifer o sipoau yng Nghymru, gan gynnwys ym Mangor, Abertawe, Rhyl, Llandudno, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Wrecsam, Caerffili, dwy yng Nghaerdydd, Casnewydd, Penybont ar Ogwr, Llanelli, Cwmbran a Phontypridd.