Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys sydd wedi’i ethol yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n bwysig “bod llais cryf gyda’r cymunedau gwledig ac amaethwyr”.
Mae’r Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol yn gydweithrediad unigryw rhwng Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr ac ystod eang o sefydliadau sydd â diddordeb mawr mewn diogelwch cymunedol a materion gwledig.
Mae’r Rhwydwaith, a gafodd ei ffurfio yn 2014, yn gweithio i weld mwy o gydnabyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau ac effaith troseddu mewn ardaloedd gwledig fel bod modd gwneud mwy i gadw pobol yn fwy diogel.
Mae Mynd i’r Afael â Throseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt wedi bod yn un o flaenoriaethau Dafydd Llywelyn ers cael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2016.
Ar ôl gweithio gyda’r Heddlu i ddatblygu Tîm Troseddau Gwledig yn Nyfed-Powys, mae wedi bod yn gweithio’n fwy diweddar gyda phartneriaid o bob rhan o Gymru, i sefydlu rôl Cydgysylltydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt cenedlaethol i weithio gyda phob heddlu yng Nghymru.
‘Ffocws ac adnoddau’
“Mae’n mynd i alluogi’r holl bartneriaid sydd ynghlwm â’r rhwydwaith ddylanwadu ar blismona a dod i ddeall y problemau a’r heriau sy’n effeithio ar faterion gwledig a hefyd rhoi cyfle i ni lobïo’r Llywodraeth am newidiadau mewn deddfwriaeth, er enghraifft,” meddai Dafydd Llywelyn wrth golwg360.
A pha fath o droseddau sy’n wynebu trigolion cymunedau gwledig?
“Mae yno heriau a throseddau cyson yn effeithio amaethwyr yn benodol oherwydd y buddiannau sydd gyda nhw yn y cymunedau gwledig,” meddai wedyn.
“Hynny yw, mae ganddyn nhw stoc er enghraifft sy’n aml yn cael eu dwyn, mae ganddyn nhw beiriannau sy’n cael eu dwyn… dyna’r pethau sy’n cael eu targedu yn bennaf.
“Dw i’n gobeithio y bydd (y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol) yn rhoi mwy o ffocws ac adnoddau i Dyfed-Powys yn benodol.
“Hynny yw, gan ei bod ni’n cymryd rôl flaenllaw yn genedlaethol, mi fydd yno ffocws penodol a bydd yno adnoddau yn dod atom ni.
“Dyw hwnna ddim yn adnoddau ychwanegol, ond yn hytrach, adnoddau penodol gan ein bod ni’n gwneud plismona gwledig ac yn ymateb i heriau penodol.
“Yna byddan ni hefyd yn cydweithio gyda’n partneriaid yn y maes, hynny yw bod yno unedau pwysig ond hefyd partneriaid megis yr awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd hefyd yn chwarae rôl flaenllaw.
“Bydd bod yn rhan o’r bwrdd a rhoi’r flaenoriaeth a’r ffocws hynny yn dilyn wedyn o ymateb, gobeithio, mwy cadarnhaol a bydd yr adnoddau priodol yn dod atom ni.
“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysig i ddweud yw ei bod hyn flaenoriaeth i mi yn bersonol fel Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae’n rhaid bod llais cryf gyda’r cymunedau gwledig ac amaethwyr, ac mae’n rhaid cydnabod eu bod nhw’n cael eu targedu ac mae’n rhaid i ni geisio gwella’r sefyllfa o’u hochr nhw.”