Mae cynllun yng Ngwynedd sy’n dod â phobl leol at ei gilydd i greu ar fin tyfu ymhellach, gyda naw safle newydd yn agor dros yr haf.
Nod menter Ffiws yw agor gofodau i’r gymuned gael rhannu offer adeiladu a threialu teclynnau, yn ogystal â chael cyngor arbenigol.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Arloesi Gwynedd Wledig, sy’n ceisio datblygu prosiectau arloesol i ymateb i’r heriau sy’n wynebu economi a chymunedau’r sir.
Mae gwirfoddolwyr yno hefyd i roi cymorth i drwsio stwff, sy’n hybu’r syniad o ailddefnyddio a lleihau gwastraff.
Sefydlu’r fenter
Yn ôl Rhys Gwilym o Fenter Môn, sy’n cydlynu Arloesi Gwynedd Wledig, y syniad gwreiddiol oedd cynnig yr offer i fusnesau a phobol ifanc am ddim.
“Mae Ffiws yn brosiect gafodd ei lansio yn ôl yn 2019 mewn hen siop fetio wag ar y stryd fawr ym Mhorthmadog,” meddai Rhys wrth golwg360.
“Wnaeth Cyngor Gwynedd brynu llwyth o offer, fel argraffwyr 3D a thorwyr laser, a gwneud rhyw fath o ofod gwneud (makerspace).
“Y syniad ydy bod pobl yn cael treialu nhw. Rydyn ni’n cael busnesau’n dod yma sydd ddim isio prynu darn o offer gyntaf gan eu bod nhw mor ddrud.
“Maen nhw’n dod i Ffiws i gael hyfforddiant a gweld os ydy o’n rhywbeth fydden nhw’n gallu defnyddio yn eu busnes nhw, ac maen nhw’n prynu rhai eu hunain wedyn.
“Hefyd, mae’n rhatach i bobl sydd ond eisiau defnyddio’r offer unwaith, yn hytrach na’u bod nhw’n gorfod buddsoddi ynddyn nhw eu hunain.
“Mae’n syniad eithaf Americanaidd. Er bod yna rai ohonyn nhw yn y wlad yma, dydyn nhw ddim yn gymaint o beth ag ydyn nhw’n fan yna.”
Agor canolfannau newydd
Bydd naw safle Ffiws newydd yn agor dros yr haf yng nghymunedau Bethel, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Botwnnog, Caernarfon, Llanaelhaearn, Penrhyndeudraeth, Penygroes a Thywyn.
“Gawson ni bres gan Lywodraeth Cymru drwy’r Economi Gylchol, felly wnaethon ni a Chyngor Gwynedd gais [am arian] i ddatblygu mwy o ofodau Ffiws mewn llefydd ar draws Gwynedd,” meddai Rhys wedyn.
“Rydyn ni wedi gweithio efo grwpiau cymunedol yn yr ardaloedd yma, ac mae yna naw newydd yn agor.
“Mae yna gymaint o oedi wedi bod achos Covid, mae wedi cymryd bach hirach na’r disgwyl.
“Hefyd oherwydd Covid – dydyn ni heb allu gweithredu fel oedden ni na gallu cynnal digwyddiadau, felly rydyn ni’n trio cychwyn hynny yn ôl fel mae rheolau’n llacio.
“Er hynny, wnaeth llawer ohonom ni ddechrau printio visors oherwydd bod yna brinder, felly mae hynny’n un peth da wnaeth ddod allan o’r cyfnod clo.
“Fyddwn ni’n araf yn adeiladu pethau’n ôl, ond gobeithio bydd pobl yn dechrau dod yn ôl yn fuan.”
‘Meddylfryd pobl yn newid
Mae’r fenter yn wynebu nifer o heriau i’w chadw ei hun yn gynaliadwy, gan gynnwys canfod gweithwyr a’r amgylchedd.
“Ar y dechrau, rhaid inni dalu pobol i ddod yno i gael up-and-running, ond yn y tymor hir, rhaid cael gwirfoddolwyr sy’n fodlon dod i mewn unwaith y mis i gadw’r fenter yn gynaliadwy.
“Ond eto, treialu’r syniad ydyn ni. Efallai fydd y naw lleoliad ddim yn parhau, ond os alli di gael tri neu bedwar ar agor, fysa hynny’n ganlyniad da.
“Ac wrth drwsio stwff, dydy pethau ddim yn cael eu taflu i landfills yn syth, felly mae meddylfryd pobl yn newid.”
Ateb i argyfwng y stryd fawr?
Gyda nifer yr hen fusnesau sydd wedi cau ar strydoedd mawr Cymru – yn cynnwys y safle ym Mhorthmadog – mae defnyddio’r gofodau gwag ar gyfer y gymuned yn un opsiwn, ond mae’n rhaid iddyn nhw allu rhedeg eu hunain yn gynaliadwy, meddai Rhys.
“I allu datrys y broblem honno, rhaid iddo allu rhedeg ei hun heb gael cyllid.
“Y gobaith pan wnaethon ni lansio ffiws oedd ein bod ni’n rhedeg o yn y dechrau, drwy dalu rhent a thalu pobl i roi hyfforddiant.
“Drwy wneud hynny mi alli di greu cymuned o bobol sydd yn cymryd o drosodd.”
“Ond os ydy o mor fawr yn America, am wn i fod yna botensial iddo fo ddod yn fawr yn y wlad hon hefyd.
“Yr her yng Ngwynedd ydy bod y boblogaeth yn llai [na dinasoedd fel Lerpwl], ond os fedrwn ni gael y talent ifanc lleol i aros yma yn hytrach na symud i’r dinasoedd hynny, mae potensial iddo fo weithio.”