Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, gwasanaeth sy’n helpu plant o gefndiroedd difreintiedig yn ystod y gwyliau.

Bydd £4.85m yn cael ei glustnodi i gefnogi’r cynllun eleni, a fydd yn sicrhau bod bron i 8,000 o blant yn parhau i fwynhau amser yn yr ysgol yn ystod y gwyliau.

Bu’r Gweinidog yn bresennol mewn ‘Clwb Bwyd a Hwyl’ – sy’n rhan o’r rhaglen – yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri.

Dywedodd Jeremy Miles ei bod yn “wych gweld cynifer o blant yn elwa ar yr addysg, y gweithgareddau a’r bwyd iach a ddarperir gan ein cynllun Rhaglen Gwella’r Gwyliau Haf”.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i athrawon a dysgwyr ledled Cymru, ond mae plant angen help o hyd er ei bod yn wyliau haf,” meddai.

Mae’r rhaglen yn cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn cael ei chynnal gan ysgolion ac awdurdodau lleol.

‘Cymorth wedi blwyddyn anodd’

Y nod yw sicrhau bod plant o ardaloedd difreintiedig yn derbyn addysg am fwyd a maeth, gweithgareddau corfforol a phrydau iachus.

Bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu miloedd o blant ledled Cymru i gadw’n heini, i ymwneud ag eraill ac i gael digon i’w wneud dros chwe wythnos o wyliau’r haf.

Dywed Jeremy Miles fod “cyfran uchel o’r disgyblion yn cael Prydau Ysgol am Ddim”.

“Mae’r rhaglen yn rhoi lefel o sicrwydd i rieni a gofalwyr y bydd y plant yn parhau i gael cefnogaeth a chyfle i fwynhau yn ystod y gwyliau, er bod y tymor ysgol wedi dod i ben,” meddai.

“Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld y cynnydd y mae’r rhaglen wedi’i wneud mewn dim ond chwe blynedd.

“Hoffwn ddiolch i bob un o’n partneriaid sydd wedi gweithio mor galed i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen, gan ledaenu cymorth y rhaglen i blant a theuluoedd ledled Cymru.”

Gwnaeth e hefyd ymuno â phlant yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd, am gyfres o weithgareddau fel rhan o raglen wyliau haf yr Urdd.