Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod angen iddyn nhw “geisio cydbwyso anghenion” y gymuned wrth godi ysgol newydd sy’n peryglu dyfodol trac seiclo arwyddocaol lle gwnaeth y Cymro Geraint Thomas ddysgu ei grefft.
Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer ysgol uwchradd newydd yn Cathays, gan ddweud bod angen safle llawer mwy o faint na’r ysgol bresennol.
Maen nhw’n dweud y bydd cyfleusterau chwaraeon newydd sbon ar y safle dan sylw, yn ogystal â chaeau pob tywydd at ddefnydd y gymuned hefyd.
Ond bydd angen dileu’r trac seiclo presennol, lle bu seiclwyr rhyngwladol eraill megis Owain Doull, Luke Rowe ac Elinor Barker yn ymarfer hefyd, er mwyn creu “mannau agored, gwyrdd, cyhoeddus”, meddai’r Cyngor.
Ymgyrch
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn ceisio achub y felodrôm sydd wedi cael ei gydnabod gan Geraint Thomas, enillydd y Tour de France yn 2018, fel rhan pwysig o’i ddatblygiad fel seiclwr.
Ond mae’r clwb yn wynebu dyfodol ansicr wrth iddyn nhw ddweud bod Cyngor Caerdydd eisiau iddyn nhw symud i safle newydd yn y Bae.
“Mae’r dymchwel yn cael ei gelu gan y Cyngor ymhlith eu cynlluniau i ehangu Ysgol Uwchradd Cathays,” meddai tudalen Facebook yr ymgyrchwyr.
“Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi anwybyddu’r gwrthwynebiad mwyaf eang ymhlith y trigolion lleol niferus rydyn ni wedi trafod y cynlluniau â nhw.
“Does dim rheswm i ddymchwel y trac, p’un a yw’r estyniad i Ysgol Uwchradd Cathays yn mynd yn ei flaen neu beidio.
“Does dim modd adeiladu ar safle’r trac gan fod y tir yn ansefydlog.
“Mae’r trac yn gyfleuster gwerthfawr i’r gymuned leol, a dylid ei gadw a’i wella ar gyfer disgyblion ysgol a’r gymuned leol.”
Deiseb
Mae dros 1,000 o bobol eisoes wedi llofnodi deiseb yn galw am gadw’r trac.
“Nid yn unig ydi Maindy yn rhan o dreftadaeth chwaraeon ein cenedl, ond mae hefyd yn adnodd pwysig I’r gymuned leol, ac yn un o ychydig fannau gwyrdd yn ardal Cathays a Gabalfa,” meddai’r ymgyrchwyr wedyn.
“Mewn egwyddor nid ydym yn erbyn cael ysgol newydd i Cathays, ond dylai’r cynllun gynnwys yr adnodd pwysig yma, a dim ei ddinistrio.”
Ymateb y Cyngor
“Wrth ystyried y gofyniad i wella a chadw’r lefel bresennol o ofod cymunedol wrth ddarparu ysgol newydd sydd yn cydymffurfio, yn anffodus, nid yw’n bosibl cadw’r trac beics,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Byddai gwneud hynny’n lleihau’n sylweddol yr ardal agored y mae’r gymuned yn ei mwynhau, i tua hanner y maint. Ni fyddai’r lle sy’n weddill yn cynnwys ardal laswelltog wastad ychwaith.
“Mae’r Cyngor yn ceisio cydbwyso’r angen i gynnal mannau cyhoeddus, agored a gwyrdd i bobol yn yr ardal leol ochr yn ochr â’r cyfle i ddarparu ysgol newydd sbon gyda chyfleusterau cymunedol y mae mawr eu hangen, yn ogystal â Felodrôm a thrac beicio perimedr newydd o’r radd flaenaf yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
“Byddai cynnal felodrom ar safle’r Maendy yn golygu mai dim ond y tu allan i oriau ysgol y byddai’r gymuned yn gallu ei ddefnyddio, byddai’n cyfyngu’n sylweddol ar ddyluniad yr ysgol ac ni fyddai’n gwireddu manteision safle’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
“Mae trac y Maendy hefyd mewn cyflwr gwael, a byddai angen buddsoddiad sylweddol i’w ailddatblygu.
“Dim ond os bydd trac y Maendy yn cau y gellir darparu’r Felodrôm newydd arfaethedig, gan ei fod yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniad ariannol o’r rhaglen cyfalaf Addysg.
“Os na fyddwn yn bwrw ymlaen gyda’r ysgol, bydd trac y Maendy yn aros ar agor, ac ni fydd cynnig Felodrôm y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn mynd rhagddo.