Sicrhaodd y Seintiau Newydd eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn Ewrop yng Nghyngres Ewropa neithiwr (nos Fawrth, 21 Gorffennaf), gan guro Kauno Zalgiris 5-0.

Sgoriodd Leo Smith ei bumed gôl mewn pum gêm Ewropeaidd ar ôl wyth munud i roi’r dechrau perffaith i’r Seintiau.

Ychwanegodd Danny Davies ddwy gôl mewn pedair munud cyn i Declan McManus ychwanegu pedwerydd.

Seliodd Jordan Williams fuddugoliaeth gofiadwy gyda phumed gôl dri munud cyn diwedd y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn hwb enfawr i obeithion y Seintiau o gyrraedd trydedd rownd rhagbrofol y gystadleuaeth yn erbyn Viktoria Plzen neu Dinamo Brest.

“Gwych”

“Rwy’n falch iawn dros y chwaraewyr, roeddwn i’n meddwl eu bod yn wych,” meddai Anthony Limbrick.

Fe gafodd pencampwyr Cymru Cei Connah noson galed wrth iddyn nhw golli 4-1 yn erbyn Prishtina.

Sgoriodd Leotrim Bekteshi i roi pencampwyr Kosovo ar y blaen bum munud cyn hanner amser gydag Oto John yn dyblu mantais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner.

Llwyddodd Tom Moore i sgorio i’r ymwelwyr gyda chic rydd ar ôl 74 munud ond adferodd ergyd Endrit Krasniqi fantais ddwy gôl Prishtina bedwar munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Oto John ei ail o’r gêm gyda munudau’n unig yn weddill i selio buddugoliaeth a rhoi mynydd i Gei Connah ei ddringo yn ail gymal yr wythnos nesaf.