Mae cyn-asgellwr Cymru, David Cotterill, wedi ymuno â’r Drenewydd.

Daeth y gŵr 33 oed – sydd wedi chwarae i dimau megis Wigan Athletic ac Abertawe – allan o’i ymddeoliad ym mis Ionawr 2020 gan ymuno â’r Barri.

Mae ef wedi ennill 24 cap i Gymru ar hyd ei yrfa ac roedd yn rhan o’r garfan deithiodd i’r Ewros yn Ffrainc yn 2016.

“Dw i wrth fy modd i gyflawni’r cytundeb hwn a chael David yn ymuno â’r clwb,” meddai Chris Hughes, rheolwr y Drenewydd.

“Mae ei brofiad yr union beth sydd ei angen arnom ac mae’n dod a lot o wybodaeth pêl-droed i’r garfan.”