Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd Steve Cooper yn gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae Cooper, 41, wedi bod wrth y llyw yn Stadiwm Liberty ers mis Mehefin 2019 ac mae ganddo flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb.

Arweiniodd Abertawe i gemau ailgyfle’r Bencampwriaeth ddau dymor yn olynol, ond roedd amheuon y byddai’n gadael ar ôl i’r Elyrch golli yn erbyn Brentford yn Wembley ym mis Mai ac mae sïon nad yw ei berthynas â Bwrdd y clwb yn dda.

Roedd Cooper wrth y llyw ar gyfer buddugoliaeth Abertawe yn Plymouth Argyle nos Fawrth (20 Gorffennaf), ond mae’n debyg ei fod bellach wedi dweud ei fod am adael ei swydd ac mae disgwyl iddo ddod i gytundeb â’r clwb i gael ymadael.

Nid yw Abertawe wedi cyhoeddi ymadawiad Cooper eto, ond mae’n debyg y daw cadarnhad yr wythnos hon.

Mae’r clwb yn obeithiol o wneud penodiad cyflym wrth iddynt geisio ffeindio ei olynydd, gyda darpar ymgeiswyr eisoes yn cael eu hystyried.

Nid yw’r adroddiadau’n sioc fawr o ystyried bod sôn ei fod eisiau gadael wedi bod o gwmpas ers cryn dipyn.

Roedd yn un o’r rhai gafodd ei gysylltu â swydd Crystal Palace cyn i Patrick Vieira gael ei benodi, tra’i fod hefyd wedi’i gysylltu’n drwm â Fulham nes iddynt ddewis Marco Silva.

Mae Cooper wedi bod wrth y llyw ar gyfer paratoadau Abertawe am y tymor newydd, a siaradodd â’r cyfryngau ar ôl eu buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Plymouth Argyle.

Pan ofynnwyd iddo am ei ddyfodol, dywedodd Cooper: “Rwy’n credu os bydd unrhyw newyddion go iawn, dyna pryd y byddem yn siarad.

“Does dim diweddariadau swyddogol ar unrhyw beth.

“Rydych chi’n gwybod nad ydw i’n hoffi siarad amdanaf fy hun felly gadewch i ni ganolbwyntio ar y bechgyn.”