Mae ymgyrchwyr yn ceisio achub y felodrôm oedd yn allweddol yn natblygiad y seiclwr byd-enwog Geraint Thomas o Gaerdydd.

Fe wnaeth y Cymro gydnabod rôl ei glwb seiclo lleol ym Maendy wrth iddo fe ennill y Tour de France yn 2018.

Ymhlith yr enwau mawr eraill oedd wedi dysgu eu crefft yno mae Elinor Barker, Luke Rowe ac Owain Doull.

Ond mae’r clwb yn wynebu dyfodol ansicr wrth iddyn nhw ddweud bod Cyngor Caerdydd eisiau iddyn nhw symud i safle newydd yn y Bae.

Mae hynny, meddai’r ymgyrchwyr, er mwyn creu lle i ehangu Ysgol Cathays.

“Mae’r dymchwel yn cael ei gelu gan y Cyngor ymhlith eu cynlluniau i ehangu Ysgol Uwchradd Cathays,” meddai tudalen Facebook yr ymgyrchwyr.

“Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi anwybyddu’r gwrthwynebiad mwyaf eang ymhlith y trigolion lleol niferus rydyn ni wedi trafod y cynlluniau â nhw.

“Does dim rheswm i ddymchwel y trac, p’un a yw’r estyniad i Ysgol Uwchradd Cathays yn mynd yn ei flaen neu beidio.

“Does dim modd adeiladu ar safle’r trac gan fod y tir yn ansefydlog.

“Mae’r trac yn gyfleuster gwerthfawr i’r gymuned leol, a dylid ei gadw a’i wella ar gyfer disgyblion ysgol a’r gymuned leol.”

Deiseb

Mae dros 1,000 o bobol eisoes wedi llofnodi deiseb yn galw am gadw’r trac.

“Nid yn unig ydi Maindy yn rhan o dreftadaeth chwaraeon ein cenedl, ond mae hefyd yn adnodd pwysig I’r gymuned leol, ac yn un o ychydig fannau gwyrdd yn ardal Cathays a Gabalfa,” meddai’r ymgyrchwyr wedyn.

“Mewn egwyddor nid ydym yn erbyn cael ysgol newydd i Cathays, ond dylai’r cynllun gynnwys yr adnodd pwysig yma, a dim ei ddinistrio.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â’r Cyngor am ymateb.