Fe fydd y ddau Gymro Gerwyn Price a Jonny Clayton yn herio’i gilydd ym Mhencampwriaeth Chwarae-gornest y Byd (World Matchplay) yn Blackpool nos Fawrth (Gorffennaf 20).
Mae rhywfaint o dorf yn cael bod yng Ngerddi’r Gaeaf ar gyfer y gystadleuaeth – rhywbeth mae Jonny Clayton wedi dweud wrth golwg sy’n ei helpu yn ystod gemau.
Fe wnaeth Price guro Jermaine Wattimena o 10-4 i sicrhau ei le, a hynny ar ôl colli’r rownd gyntaf bedair gwaith yn olynol dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd e ar ei hôl hi o ddwy gêm y tro hwn hefyd, ond fe darodd e ’nôl gyda chyfartaledd tri dart o 96.57 gan daflu 127 i fynd â’r ornest.
Mae Clayton wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf am y tro cyntaf.
Fe gurodd y Cymro Cymraeg o Bontyberem yr Iseldirwr Dirk van Duijvenbode o 10-7, gan gaflu saith 180.
Darllenwch gyfweliadau Golwg â’r ddau Gymro: