Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod, yn dweud y bydd y capten Alun Wyn Jones yn cael ei ystyried ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 24).

Enillodd y Llewod o 49-3 yn erbyn y Stormers yn Cape Town, wrth i’r Cymro ddychwelyd i’r cae am y tro cyntaf ers iddo fe ddatgymalu ei ysgwydd mewn gêm baratoadol yn erbyn Japan, a gadael y garfan cyn iddyn nhw hedfan i Dde Affrica.

Chwaraeodd e am 27 munud ar ôl yr hyn mae Gatland yn ei ddisgrifio fel “gwyrth o adferiad”, ac fe wnaeth e saith tacl a chario’r bêl bum gwaith wrth ennill pedwar metr o diriogaeth.

“Cafodd Alun sawl ergyd ac fe wnaeth e amddiffyn yn dda,” meddai’r prif hyfforddwr.

“Roedd ambell gyffyrddiad hefyd.

“Y peth mawr iddo fe oedd dod trwy’r cyfnod hwnnw a gweld sut oedd e wedyn.

“Dw i ddim wir wedi cael sgwrs gyda fe ond doedd e ddim allan yno’n hir.

“Roedden ni jyst eisiau gweld sut oedd yr ysgyfaint.

“Dw i’n gwybod pa mor galed mae e wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf, felly roedd e’n ddespret i’w gwneud hi i’r Llewod.”