Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm ugain pelawd gartref olaf yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd o 74 rhediad, wrth i Wlad yr Haf sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Sgoriodd Devon Conway, y batiwr tramor o Seland Newydd, 70 oddi ar 52 o belawdau wrth iddo fe aros wrth y llain am fatiad cyfan yr ymwelwyr, wrth iddyn nhw sgorio 181 am bump yn eu hugain pelawd.

Yn ystod ei fatiad, tarodd e naw pedwar ac un chwech wrth i’r ymwelwyr gosbi bowlio gwan Morgannwg – ac eithrio Roman Walker, a gipiodd dair wiced am 15 yn ei bedair pelawd.

Wrth gwrso, dim ond 107 sgoriodd Morgannwg, wrth i’r troellwyr llaw chwith Lewis Goldsworthy a Roelof van der Merwe gipio tair wiced yr un.

Manylion y gêm

Roedd Gwlad yr Haf heb ddau o’u sêr, Lewis Gregory a Tom Banton, gan eu bod nhw yng ngharfan Lloegr ar hyn o bryd.

Ond fe ddechreuon nhw’n gadarn ar ôl galw’n gywir a batio, wrth iddyn nhw gyrraedd 55 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth golli Steven Davies, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 22.

Roedden nhw’n 67 am ddwy yn y nawfed pelawd, wrth i Will Smeed gael ei ddal gan van der Gugten yn safle’r goes fain oddi ar fowlio Roman Walker am saith.

Cipiodd Walker, sy’n hanu o Wrecsam, wiced yn ei belawd nesaf hefyd, wrth i James Hildreth gael ei ddal gan Cooke am ddeg, a’r ymwelwyr yn 84 am dair.

Roedden nhw’n 97 am bedair yn y drydedd pelawd ar ddeg, wrth i Goldsworthy gael ei ddal gan Ruaidhri Smith yn gyrru ar ochr y goes oddi ar fowlio Walker unwaith eto.

Cyrhaeddodd Conway ei hanner canred oddi ar 45 o belenni yn y ddeunawfed pelawd, ond cafodd Tom Lammonby ei ddal gan Andrew Salter wrth iddo yrru’n syth oddi ar fowlio Dan Douthwaite yn y belawd olaf ond un i adael yr ymwelwyr yn 162 am bump.

Chwalfa i fatwyr Morgannwg

Daeth Kiran Carlson allan yn ymosodol a tharo chwech yn y belawd gyntaf wrth i Forgannwg gwrso 182, ond cafodd ei ddal oddi ar fowlio troellwr llaw chwith arall, Jack Leach, a’r tîm cartref yn saith am un.

Collodd Morgannwg eu hail wiced cyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth i Colin Ingram gael batiad siomedig arall a chael ei ddal gan Craig Overton oddi ar ei fowlio’i hun am 19.

Roedden nhw eisoes ar ei hôl hi o 19 rhediad erbyn hynny, a chollon nhw eu trydedd wiced yn y seithfed pelawd wrth i David Lloyd yrru at Overton yn y cyfar oddi ar fowlio Goldsworthy am 11.

Llwyddodd y troellwyr llaw chwith Leach, Goldsworthy a van der Merwe i gadw’r bowlio’n dynn am rai pelawdau cyn i Forgannwg chwalu dan bwysau unwaith eto, wrth i Billy Root golli ei wiced i chwip o ddaliad gan Ben Green wrth yrru ar ochr y goes oddi ar fowlio van der Merwe am 13, a Morgannwg yn 62 am bedair.

Collodd Morgannwg wicedi’n rhy aml o lawer wedyn.

Roedden nhw’n 69 am bump pan dynnodd Marnus Labuschagne at van der Merwe ar y ffin oddi ar fowlio Marchant de Lange, cyn-fowliwr Morgannwg, am 18.

Yn y belawd ganlynol, cafodd Cooke ei ddal gan Overton yn y cyfar oddi ar fowlio Goldsworthy am un, a chafodd Andrew Salter ei ddal gan van der Merwe oddi ar fowlio Leach am dri.

Roedden nhw’n 85 am wyth erbyn diwedd y bymthegfed pelawd, wrth i Roman Walker gael ei fowlio am ddau, gyda Goldsworthy yn gorffen gyda thair wiced am 14.

Daeth yr ornest i ben yn yr ail belawd ar bymtheg wrth i van der Merwe waredu van der Gugten a Dan Douthwaite, y ddau wedi’u dal gan Green, a’r bowliwr yn gorffen gyda thair wiced am 20.

Taith i Hampshire sydd gan Forgannwg ddydd Sul (Gorffennaf 18), ac wedyn fe fydd y cwestiynau mawr yn cael eu gofyn wrth iddyn nhw geisio atebion i ymgyrch sydd wedi bod yn hynod siomedig.

Ymddiheuriad

Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth y capten Chris Cooke ymddiheuro am berfformiad ei dîm.

“Roedden ni ychydig yn fflat yn ystod y pelawdau agoriadol pan ddaethon ni allan i faesu, ac fe waethygodd o’r fan honno,” meddai.

“Cawson ni gêm pedwar diwrnod anodd yn erbyn Swydd Northampton ac er nad yw hynny’n esgus, fe ddechreuon ni’n fflat.

“Doedd hi ddim yn llain [i sgorio] 180 felly ymddiheuriadau wrth yr holl gefnogwyr ddaeth allan heno.

“Troellwyr yng nghanol y batiad fu ein gwendid yn y gystadleuaeth hon, felly mae angen i ni sortio hynny dros y gaeaf.

“Dydy llawer o’n bois profiadol ddim wedi camu i fyny, ac mae’n ei gwneud hi’n anodd mynd ar rediad pan nad yw’r batwyr yn perfformio.

“Mae Roman Walker wedi bod yn wych ac roedd e’n rhagorol eto heno.

“Mae angen i ni dargedu dechreuad cryf i’r gystadleuaeth hon y tymor nesaf ond byddai’n braf gorffen eleni gyda buddugoliaeth yn Hampshire.

“Bydda’ i’n siomedig os nad yw pobol wedi’u hysgogi ar gyfer hynny oherwydd rydyn ni’n dal i chwarae dros Forgannwg.”