Mae disgwyl y bydd Warren Gatland yn caniatau i Alun Wyn Jones chwarae 20 munud yn erbyn y Stormers ddydd Sadwrn.

Dair wythnos yn ôl, cafodd capten Cymru anaf i’w ysgwydd yn erbyn Japan, ond mae wedi cael gwellhad rhyfeddol o’r anaf hwnnw.

Roedd wedi bod yn ymarfer gyda thîm Cymru wythnos diwethaf, ac ar ôl hynny, penderfynodd Gatland galw ei gapten yn ôl i Dde Affrica.

Gyda’r chwaraewr ail reng yn dod oddi ar y fainc yn erbyn y Stormers yfory, mae ymddangosiad yn y gemau prawf yn edrych yn llawer mwy tebygol.

Y daith hyd yma

Mae’r Llewod yn mynd i mewn i’r gêm ddydd Sadwrn gyda phedair buddugoliaeth hyd yn hyn.

Er hynny, colli oedd eu ffawd yn erbyn De Affrica ‘A’ nos Fercher, gyda’r ddau dîm yn dewis timau cryfion.

Mae carfan y Stormers, sy’n chwarae yn Cape Town, yn cynnwys Chwaraewr Rygbi Gorau’r Byd 2019, Pieter-Steph du Toit, a bydden nhw’n gobeithio bod yr unig glwb i guro’r Llewod ar y daith eleni.

Gydag wythnos i fynd tan y gêm brawf gyntaf, dyma fydd 80 munud olaf y Llewod cyn chwarae Pencampwyr y Byd.

Bydd y gic gyntaf rhwng y Llewod a’r Stormers am bump o’r gloch ddydd Sadwrn, gyda’r ornest yn fyw ar deledu Sky ac uchafbwyntiau ar S4C am 10.30 y nos.