Bydd Cymru’n chwarae gêm olaf cyfres yr haf yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn.

Wedi’r gêm gyfartal yr wythnos diwethaf, bydd Cymru’n gobeithio gorffen y gyfres gyda buddugoliaeth.

Bydden nhw hefyd yn gobeithio atal y Pumas rhag eu trechu am y tro cyntaf ers 2012.

Mae Wayne Pivac wedi gwneud saith newid i’r tîm ar gyfer yr ail brawf tyngedfennol.

Siaradodd golwg360 â’r sylwebydd Gareth Charles am obeithion Cymru yn mynd i mewn i’r gêm.

‘Gorffen ar nodyn uchel’

Wrth drafod gobeithion hyfforddwyr Cymru, mae Gareth Charles yn credu bydden nhw’n disgwyl gallu cael buddugoliaeth.

“Bydden nhw’n dymuno cael buddugoliaeth achos dyma’r gêm ddiwethaf am sbel, ac yn enwedig ar sail y gêm gyntaf, dylen nhw fod wedi ennill yn erbyn 14 wythnos diwethaf.

“Dyna’r peth mawr yw eu bod nhw’n gorffen yr ymgyrch ar nodyn uchel, ond hefyd mae e’n gyfle i weld y chwaraewyr newydd.

“Felly mae’r cyfuniad yna o roi profiad a gorffen y gyfres gyda buddugoliaeth.”

Mae’r bartneriaeth ail reng rhwng Ben Carter a Will Rowlands yn parhau gyda’r ddau yn cadw eu lle yn y tîm, ond mae Pivac wedi dewis partneriaeth newydd yn safleoedd yr haneri gan ddod â Tomos Williams a Jarrod Evans i mewn.

“Yn amlwg, roedd Ben Carter yn ardderchog yn y gêm gyntaf [yn erbyn Canada], ond wedyn roedd Yr Ariannin yn gymaint gwell tîm,” meddai Gareth Charles.

“Diddorol yw gweld yr haneri gyda’i gilydd achos fe wnaethon nhw wahaniaeth ar ôl dod ymlaen wythnos diwethaf.

“Grêt gweld Tomos Williams yn ôl yn holliach ar ôl iddo fe gael cwpl o anafiadau, ond ni’n gwybod pa mor beryglus yw e a Jarrod Evans.”

Dim arbrofi, ond adeiladu

“Bydd hi’n gêm dynn, a ni’n gwybod pa mor gorfforol yw’r Ariannin. Mae’r ffaith eu bod nhw’n chwarae’n gyson yn erbyn timau hemisffer y de wedi gwella eu gem nhw,” meddai Gareth Charles.

“Fe rown nhw brawf go-iawn i Gymru, ond eto i gyd gall Cymru ennill, yn enwedig ar ôl y gêm wythnos diwethaf.

“Mae digon o’r perfformiad hwnnw’n awgrymu y gallen nhw ennill.”

Wrth edrych yn ôl dros gyfnod Wayne Pivac yn brif hyfforddwr, mae Gareth Charles yn credu ei fod wedi profi ei hun ac ar y “trywydd iawn” tuag at Gwpan y Byd 2023.

“Oedd lot o bobl yn ei amau yn mynd i mewn i’r Chwe Gwlad, a chwaraeon ni’n rhyfeddol o dda bryd hynny.

“Mae’r math o rygbi hefyd wedi plesio, felly roedd yr arbrofi yng nghyfnod cyntaf Wayne wedi talu ei ffordd.

“Dyna pam bod rhaid gorffen ar nodyn uchel i gadw’r momentwm yna o’r Chwe Gwlad.

“Maen nhw’n sicr ar y trywydd iawn ar gyfer Cwpan y Byd.”

Bydd S4C yn dangos y gêm yfory, gyda’r gic gyntaf am dri.