Mae’r Seintiau Newydd drwodd i ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa – cystadleuaeth newydd UEFA – wedi iddyn nhw drechu Glentoran FC 2-0 (3-1 dros ddau gymal).

Ond siom oedd hi i’r Bala, gan golli o 1-0 (2-0 dros ddau gymal) yn erbyn Larne FC.

Bydd y Seintiau Newydd yn ymuno â Chei Connah yn yr ail rownd ragbrofol, ar ôl iddyn nhw ddisgyn o Gynghrair y Pencampwyr nos Fercher (14 Gorffennaf).

Mae canlyniad neithiwr yn golygu mai’r Seintiau yw’r tîm cyntaf o Gymru i ennill gêm yng Nghyngres Ewropa – ac roedd o’n glamp o berfformiad gan y tîm cartref.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl i Jordan Williams gael ei dynnu lawr gan gôl geidwad Glentoran FC, Dayle Coleing.

Wnaeth Declan McManus ddim camgymeriad gyda’i gic o’r smotyn i roi’r tîm cartref ar y blaen wedi 26 munud.

Hon oedd ei gôl gyntaf i’r Seintiau ers ymuno o Dunfermline Athletic am £60,000 ym mis Mehefin.

Funud yn ddiweddarach, dyblodd Leo Smith fantais y Seintiau gyda’i bedwaredd gôl mewn pedair gêm yn Ewrop – a’r ail o fewn wythnos yn erbyn Glentoran FC!

Dywedodd prif hyfforddwr y Seintiau Anthony Limbrick fod y canlyniad wedi’i seilio ar beidio â cholli yn y gêm oddi gartref, a orffennodd yn 1-1.

“Roedd heddiw’n anodd ond roedd y ffaith mai dim ond un gôl wnaethon ni ildio’r wythnos diwethaf a’r ffaith ein bod wedi sgorio yno yn bwysig iawn,” meddai.

“Roedden ni wir yn teimlo pe gallen ni gael canlyniad cadarnhaol oddi cartref, y gallen ni chwarae ein pêl-droed ni a gwneud y cae yn fawr a phasio mwy na wnaethon ni yn y cymal cyntaf.

“A dw i’n sicr yn meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny yn yr hanner cyntaf.

“Roedd yr ail hanner yn fwy i wneud â rheoli gweddill y gêm.

“Doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus gyda’r sgôr yn 2-0 oherwydd maen nhw’n dîm da… a dw i’n meddwl ei bod hi’n gêm agos lle gallai’r ddau dîm wedi myn drwodd i’r rownd nesaf.”

Bydd y Seintiau yn awr yn herio Kauno Žalgiris o Lithuiania yn yr ail rownd ragbrofol, gyda’r gêm honno yn cael ei chynnal ar 20 Gorffennaf.

Siom i’r Bala

Sgoriodd Ronan Hale unig gôl y gêm wrth i Larne, sy’n cystadlu yn Ewrop am y tro cyntaf y tymor hwn, drechu’r Bala 1-0 (2-0 dros ddau gymal).

Torrodd yr eilydd i mewn o’r chwith a thanio ymdrech heibio gôl geidwad y Bala, Alex Ramsay, gyda saith munud o’r gêm yn weddill.

Roedd gôl David McDaid wedi rhoi mantais gul i Larne i gymryd i’r ail gymal.

Ac roedd y tîm o Gynghrair Iwerddon yn haeddu ennill yr ail gêm hefyd, gan ddod yn agos i fynd ar y blaen nifer o weithiau cyn sgorio.

Gan chwarae eu gêm Ewropeaidd gyntaf erioed ym Mharc Inver o flaen 850 o gefnogwyr, dechreuodd Larne yn dda a doedd gan y Bala ddim ateb.

Cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, David Edwards gafodd y cyfle gorau i’r tîm oddi gartref, pan gafodd ei adael heb ei farcio yn y cwrt cosbi, ond peniodd y bêl dros y bar a dylai fod wedi gwneud y well mewn gwirionedd.